Ar-lein, Mae'n arbed amser

Disgyblion yn ysgol gynradd Pantysgallog yn mynd yn ddigidol gydag ap iechyd a lles newydd

  • Categorïau : Press Release , Schools
  • 28 Ion 2022
pic

Mae disgyblion Ysgol Gynradd Pantysgallog wedi bod yn brysur yn dylunio ap newydd o’r enw ‘miHealth’ sydd â’r nod o hybu Iechyd ac lles yn eu bywydau o ddydd i ddydd.

Mae’r ap llesiant yn cynnwys awgrymiadau, heriau, ac offer i wella llesiant yn yr ysgol a gartref. Mae’r disgyblion wedi dylunio’r ap i sicrhau ystod eang o weithgareddau yn benodol ar gyfer myfyrwyr gan fyfyrwyr. Mae yna weithgareddau fel gweithgareddau ymwybyddiaeth ofalgar ar gyfer tawelwch ac ymlacio, ond mae hefyd yn cynnwys technoleg drawiadol fel realiti estynedig i ddod ag arferion ffitrwydd a gwaith celf disgyblion i mewn i'w hystafell ddosbarth a'u cartref. Daeth y weledigaeth gychwynnol ar gyfer yr ap wrth i’r disgyblion drafod sut mae bod yn Ysgol Arian sy’n Parchu Hawliau yn nodi pwysigrwydd buddsoddi yn eu lles cyffredinol. Aethant ymlaen wedyn i weithio gydag Addysg Gwerth Ychwanegol a datblygu ap a oedd yn addas nid yn unig i ddisgyblion yr ysgol ond hefyd y gymuned.

Dywedodd y Pennaeth, Darren Thomas, “Rydym yn hynod falch o’r gwaith a gyflawnwyd gan ddisgyblion Pantysgallog, mewn cydweithrediad ag arbenigwyr o Addysg Gwerth Ychwanegol, wrth ddyfeisio eu Ap Iechyd a Lles eu hunain, miHealth. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf rydym wedi mabwysiadu dull strategol o ddod yn ysgol lle mae Iechyd a Lles wrth galon popeth a wnawn, gan gefnogi ein disgyblion a’n staff. Mae gwaith ein disgyblion, sy’n ymwneud â’r prosiect hwn, yn rhoi’r gallu i ni gefnogi Lles unigolion, sydd â mynediad i ddyfeisiau, ar draws y byd. Mae’r prosiect wedi gwneud ein disgyblion yn fwy ymwybodol o sut y gallant ofalu am eu lles eu hunain, tra hefyd yn gwella eu lefelau o gymhwysedd digidol. Mae wedi bod yn llwyddiant ysgubol”.

Cynhaliodd yr ysgol ddigwyddiad rhithwir i arddangos eu app newydd a gwahoddwyd Cynghorwyr i fynychu. Roedd arweinydd y cyngor ac aelod cabinet dros addysg, Cynghorydd Lisa Mytton yn bresennol ochr yn ochr â’r dirprwy arweinydd, Cynghorydd Geraint Thomas a Dowlais a’r Cynghorydd Julian Amos or Ward Pant a Dowlais.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet dros Addysg, Cynghorydd Lisa Mytton: “Mae disgyblion a staff Pantysgallog wedi creu’r ap miHealth wedi gwneud cymaint o argraff arnaf. Mae’r ap wedi’i ddylunio’n berffaith, fel bod disgyblion, rhieni a thrigolion yn gallu ei ddefnyddio, gyda chynnwys sy’n gwella eu lles a’u hiechyd mewn ffordd ddifyr a hygyrch. Fel aelod cabinet dros addysg, byddwn wrth fy modd yn gweld mwy o hyn yn y dyfodol ar draws ein hysgolion. Mae’r pandemig wedi bod yn gyfnod anodd dros ben i lawer o ddisgyblion ac mae cynnwys fel hyn yn un ffordd yn unig o’u cefnogi nhw ac eraill , yn yr ysgol a gartref.”

Mae gan strategaeth addysg SDCS CBSMT weledigaeth i sicrhau bod cymorth iechyd meddwl a chorfforol ar gael i bob berson ifanc ar draws y Fwrdeistref. Mae’r ap hwn yn un enghraifft sy’n rhoi’r cyfle i fyfyrwyr elwa ar les trwy ddefnyddio cynnwys digidol difyr ac addysgiadol tra hefyd yn datblygu sgiliau ar yr un pryd. Yn ogystal â’r ap, cyflwynwyd Max, ci llesiant, i’r ysgol y llynedd i gefnogi’r strategaeth iechyd a lles. Derbyniodd Max, y ‘Cavapoo’ hyfforddiant ufudd-dod cyn ymuno â’r ysgol gan staff y sefydliad ‘The Dog Mentor’, sy’n cynnal cyrsiau achrededig ar sut y dylai cŵn ymddwyn yn yr ysgol ac o’i chwmpas. Ers hynny, mae Max wedi mynd ymlaen i fynd gyda disgyblion amser egwyl, croesawu plant wrth gatiau’r ysgol, a hefyd yn cefnogi disgyblion sy’n dod yn bryderus am yr ysgol ac yn eistedd i mewn ar Sesiynau Llythrennedd Emosiynol.

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd, Cynghorydd Geraint Thomas: “Roedd gweld yr ymdrech a’r deallusrwydd creadigol anhygoel sydd wedi’i gynnwys yn yr ap hwn wedi creu argraff fawr arnaf. Syniadau arloesol fel hyn sydd eu hangen arnom wrth symud ymlaen i gefnogi plant, teuluoedd, a staff ysgol ar draws y Fwrdeistref Sirol. Mae’r ap hwn yn gam pwysig i helpu myfyrwyr gydag iechyd a lles, sydd mor bwysig yn fy marn i wrth inni adael y pandemig sydd wedi bod yn gyfnod anodd i ni i gyd”.

Gallwch weld yr ap a grëwyd gan fyfyrwyr, yma: miHealth on the App Store (apple.com)

Mwy o wybodaeth am SDCS fan hyn: https://www.merthyr.gov.uk/resident/rars/?lang=cy-GB&

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni