Ar-lein, Mae'n arbed amser
Mae disgyblion yn defnyddio eu sgiliau Cymraeg y tu allan i'r ystafell ddosbarth
- Categorïau : Press Release
- 19 Gor 2021
Bu plant o Fedlinog, Trelewis ac Edwardsville yn cymryd rhan yn yr ail o ddau ddigwyddiad ar drac rhedeg John Sellwood er mwyn eu hannog i fod yn hyderus i ddefnyddio’r Gymraeg a gwneud hynny mewn modd hwyliog.
Diolch unwaith yn rhagor i blant Ysgol Rhyd y Grug a fu’n cynorthwyo i gyhoeddi’r digwyddiadau, a cafodd ei drefnu ar y cyd â’r Urdd.
Dywedodd Angharad Jones, Swyddog Iaith Gymraeg y Cyngor: “Mae’n dda i weld plant yn mwynhau eu hunain a chael cyfle i ddefnyddio eu sgiliau yn yr iaith Gymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth.
“Diolch o galon i staff Ysgol Uwchradd Afon Taf am ein cynorthwyo i gynnal y digwyddiad hwn a gobeithiwn ei ddatblygu ymhellach yn y dyfodol.”