Ar-lein, Mae'n arbed amser

Ail lansio Grant Cyfalaf Mentrau Cymdeithasol, Twristiaeth a Chwaraeon i gefnogi grwpiau cymunedol a chwaraeon a’r diwydiant twristiaeth  

  • Categorïau : Press Release
  • 11 Awst 2023
default.jpg

 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ail-lansio ei raglen grantiau i helpu mentrau cymdeithasol, grwpiau cymunedol, busnesau twristiaeth a chlybiau chwaraeon i dalu am brosiectau cyfalaf.

Bydd y Grant Cyfalaf Menter Gymdeithasol, Twristiaeth a Chwaraeon (SETS) yn cefnogi ymgeiswyr i wneud gwaith adeiladu a seilwaith a phrynu offer ar raddfa fawr er mwyn eu helpu i ehangu eu gwasanaethau a’u gweithgareddau presennol.

Ar ôl llwyddiant grant y llynedd, mae dyfarniadau o hyd at £25,000 ar gael.

Dywedodd y Cynghorydd Michelle Symonds “Mae’r Cyngor yn cydnabod bod angen pendant i gefnogi pob math o fentrau a grwpiau cymdeithasol, busnesau twristiaeth a chlybiau chwaraeon gyda chyllid cyfalaf,”

 Yn bwysig, ni fydd y cynllun yn ariannu unrhyw waith refeniw sy'n ymwneud â chael caniatâd cynllunio, rheoliadau adeiladu ac astudiaethau dichonoldeb sy'n cyd-fynd â gwaith cyfalaf posibl.

Yn gymwys ar gyfer cyllid bydd:

  • Gwaith adeiladu mewnol ac allanol sy'n gwella neu'n diogelu adeilad y busnes / sefydliad.
  • Prynu offer seilwaith mawr.
  • Gwaith cyfalaf i gynorthwyo gydag unrhyw Drosglwyddiad Asedau Cymunedol posibl

Ni allwch wneud cais am gymorth ar gyfer:

  • Costau refeniw.
  • Costau prynu adeiladau, tir neu gerbydau.
  • Costau sy'n ymwneud â threuliau rhedeg arferol.
  • Prosiectau sy'n canolbwyntio ar drosi cartrefi yn fusnesau llety (gan gynnwys AirBnB's)
  • Gweithdrefnau statudol megis caniatâd cynllunio neu reoliadau adeiladu.
  • Offer / eitemau eraill sy'n cael eu defnyddio unwaith ac am byth bob blwyddyn neu y tybir eu bod yn dymhorol.
  • Costau ôl-weithredol megis gwaith neu offer sydd eisoes wedi'i wneud/prynu.

Mae angen i ymgeiswyr fod yn fusnes twristiaeth bresennol (darparwyr atyniadau a llety yn bennaf); unrhyw fath o fusnes cymdeithasol: menter gymdeithasol, grŵp cymunedol cyfansoddiadol, CBC, clwb chwaraeon, sefydliad ieuenctid, grŵp addoli, cymdeithas preswylwyr ac ati; a rhaid i'r sefydliad/busnes fod wedi'i leoli ym Merthyr Tudful.

Yr uchafswm y gellir gwneud cais amdano yw £25,000. Bydd angen i geisiadau am fwy na £15,000 gyfrannu 20% tuag at gyfanswm cost y prosiect. Ar gyfer projectau sy'n costio llai na £15,000, ni fydd angen arian cyfatebol.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 4.00pm ddydd Gwener Awst 25 2023

Yn y lle cyntaf, bydd angen i chi gofrestru eich diddordeb drwy anfon e-bost at CRF@merthyr.gov.uk lle anfonir ffurflen gais a dogfen ganllaw ar gyfer Grant Cyfalaf SETS atoch. Bydd Tîm Ariannu Allanol y Cyngor wrth law i ateb unrhyw gwestiynau drwy e-bost.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni