Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cydnabyddiaeth Rhagoriaeth i’r Adran Arlwyo Ysgolion

  • Categorïau : Press Release
  • 30 Hyd 2023
LACA

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Adran Arlwyo Ysgolion Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi cipio’r wobr Cydnabyddiaeth Rhagoriaeth ar gyfer Gwobr Bwyd mewn Ysgolion Llywodraeth Cymru.

Nod seremoni Gwobrau Cymdeithas Arlwyo Awdurdodau Lleol (LACA), a gynhaliwyd ddydd Iau 26 Hydref yn Vale Resort Morgannwg Ganol, yw cydnabod unigolion a thimau sy’n parhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn arlwyo addysg.

Dywedodd Michelle Jones, Aelod Cabinet dros Addysg;

“Rwy’n falch iawn o’r cyflawniad hwn gan ein Hadran Arlwyo Ysgolion ymroddedig a gweithgar yma yn CBS Merthyr Tudful.

“Mae’n wych gweld eu hymrwymiad i ddarparu gwasanaeth o’r ansawdd gorau bob amser yn cael ei gydnabod a gallwn ganu eu clod gyda’r wobr drawiadol hon.

"Da iawn bawb!”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni