Ar-lein, Mae'n arbed amser

Nifer record o Faneri Gwyrdd i barciau a gerddi Merthyr Tudful

  • Categorïau : Press Release
  • 28 Gor 2022
green flag pic

Mae Merthyr Tudful wedi ennill nifer record o Faneri Gwyrdd ar gyfer parciau a gerddi Cyngor a chymunedol ac yn chweched ar y tabl o’r 22 ardal awdurdod lleol yng Nghymru.

Derbyniodd cyfanswm o 16 ardal werdd- tri pharc Cyngor Bwrdeistref Sirol a Mynwent Aberfan Cemetery a 12 project cymunedol - y gwobrau mawreddog gan Gadwch Gymru’n Daclus.

Cadwodd Parc Cyfarthfa Park, Parc Taf Bargoed, Parc Tretomos a’r fynwent eu statws, y marc rhyngwladol ar gyfer gofod gwyrdd neu barc o safon.

Dyfarnwyd Y Faner Werdd Gymunedol, y marc safon ar gyfer ardaloedd a reolir gan wirfoddolwyr i’r canlynol:

• Gwarchodfa Natur Cilsanws -Cymdeithas Naturiaethwyr Merthyr Tudful a’r Ardal
• Gerddi Canolfan Gymunedol Dowlais – Ymddiriedolaeth Elusennol Stephens & George
• Gardd Natur Ty Dysgu Dowlais
• Gardd Natur Edward a Trevor, wedi ei leoli rhwng Stryd Edward a Chlos Trevor, Pant
• Gardd Gymunedol Project Dynion y Gurnos
• Gardd Natur Gymunedol Muriel & Blanche, wedi ei leoli rhwng Teras Muriel a Stryd Blanche a Stryd Groes Blanche yn Nowlais.
• Pwll Uchaf Penywern – Cymdeithas Bysgota Merthyr Tudful
• Parc Nant Llwynog (Parc Pitwoods), Treharris
• Parc a Phentref Pontsticill
• Gardd Natur Gymunedol yr Hafod
• Hwb Gymunedol Twynyrodyn
• Gwobr Gymunedol Taith Gerdded y Coetir

Gwahoddwyd cynrychiolwyr o bob un o’r grwpiau i Barlwr y Maer i dderbyn tystysgrifau mewn ffrâm a gomisiynwyd gan y Maer y Cyng. Declan Sammon.

Yn ei thrydedd ddegawd, mae’r Wobr Faner Werdd yn arwydd i’r cyhoedd bod yr ardd neu’r gofod gwyrdd yn berchen ar y safonau amgylcheddol gorau ac yn cael ei gynnal a'i gadw yn dda a gyda chyfleusterau ymwelwyr rhagorol.

Dwedodd yr Aelod Portffolio dros Wasanaethau Cymdogaeth y Cyng. David Hughes: “ Mae Merthyr Tudful yn mynd o nerth i nerth yn nhermau Gwobr y Faner Werdd o flwyddyn i flwyddyn, ac mae bod yn chweched yn nhabl Cymru yn llwyddiant gwych.

“Rydw i’n falch bod parciau’r Cyngor a Mynwent Aberfan yn ennill gwobrau yn rheolaidd, ac mae’r diolch i waith caled Adran Parciau’r Cyngor.

“Mae hefyd nifer dda o grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr sy’n rhoi amser i gynnal a chadw gofod gwyrdd er budd y preswylwyr- felly diolch iddyn nhw hefyd.”
Dwedodd Julie James, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Newid Hinsawdd: “ Mae’r safon i ennill Baner Werdd yn uchel iawn felly hoffwn longyfarch y lleoliadau i gyd am ddarparu cyfleusterau rhagorol trwy’r flwyddyn i bobl leol ac ymwelwyr.”

“Mae’n ffantastig gweld bod dros draean o safleoedd Baner Werdd y DU yng Nghymru- mae’r ddwy flynedd ddiwethaf yn arbennig wedi ein dysgu am bwysigrwydd natur a gofod gwyrdd ar les meddyliol a chorfforol.”

Gellir gweld rhestr lawn o enillwyr ar wefan Cadwch Cymru’n Daclus www.keepwalestidy.cymru

Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn chwilio am fwy o leoedd i ymuno yng Ngwobrau’r Faner Werdd. Os hoffech chi roi eich parc neu ofod gwyrdd lleol ar y map, ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus www.keepwalestidy.cymru am fwy o wybodaeth.

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni