Ar-lein, Mae'n arbed amser
Llwyddiant Ffair Recriwtio
- Categorïau : Press Release
- 03 Hyd 2023

Mis diwethaf cynhaliwyd 15fed Ffair Recriwtio’r Cyngor, mewn partneriaeth â Chanolfan Byd Gwaith Merthyr Tudful yng Nghanolfan Hamdden Merthyr Tudful.
Roedd y diwrnod, a agorwyd gan Faer Merthyr Tudful, y Cynghorydd Malcolm Colbran, yn llwyddiant ysgubol, gyda bron i 500 o bobl leol yn dod draw i siarad â’r 25 o gyflogwyr a oedd yno i drafod eu swyddi gwag presennol, cymryd CV a chael sgwrs gyffredinol am gyfleoedd cyflogaeth.
Gyda chefnogaeth Cymunedau am Waith a Mwy a staff y Ganolfan Byd Gwaith, roedd llawer o bobl leol yn gallu gwneud ceisiadau am gyflogaeth yn uniongyrchol yn y digwyddiad. Roedd hefyd yn gyfle gwych i staff lleol Wilko, a gafodd eu diswyddo’n ddiweddar, fynychu’r digwyddiad a siarad â chyflogwyr a oedd yn edrych i lenwi rolau manwerthu.
Dywedodd y Cynghorydd Michelle Symonds, Aelod Cabinet dros Adfywio: “Mae’n wych gweld Ffair Recriwtio lwyddiannus arall eleni!
“Rydyn ni eisiau cefnogi cymaint o bobl â phosib i fynd yn ôl i weithio, felly roedd ein harbenigwyr wrth law trwy gydol y dydd i gynnig eu cefnogaeth a chyngor ar bopeth o sut i wneud cais am swyddi, ysgrifennu CVs, i dechnegau cyfweld.
“Rydym yn gobeithio bod llawer o geisiadau am swyddi llwyddiannus wedi dod o ganlyniad i hyn.”
Os ydych yn chwilio am waith ac eisiau rhywfaint o help, cysylltwch â 01685 725364 neu anfonwch e-bost at C4Wmailbox@merthyr.gov.uk a byddwn yn cael un o'n tîm Cymunedau am Waith a Mwy i roi galwad i chi am sgwrs anffurfiol.