Ar-lein, Mae'n arbed amser
Mae Wythnos Ail-gylchu’n Galw ar Drigolion Merthyr Tudful i Helpu i Gyflawni Targedau Ail-gylchu’r Fwrdeistref
- Categorïau : Press Release
- 14 Medi 2026
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn annog trigolion i wneud y gorau o'u gwasanaethau ail-gylchu yn ystod Wythnos Ail-gylchu a helpu'r fwrdeistref sirol i nesáu at dargedau ail-gylchu Llywodraeth Cymru.
Er bod y rhan fwyaf o gartrefi ym Merthyr Tudful yn ail-gylchu'n rheolaidd, dywed y Cyngor bod mwy y gellir ei wneud o hyd i wella perfformiad ail-gylchu a lleihau’r nifer o ddeunydd ailgylchadwy sy'n cael ei roi mewn biniau gwastraff cyffredinol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i awdurdodau lleol ail-gylchu 70% o'r gwastraff maen nhw'n ei gasglu.
Er bod trigolion Merthyr Tudful yn parhau i wneud cyfraniadau cadarnhaol tuag at y nod hwn, nid yw'r Cyngor wedi cyflawni'r targed gofynnol eto ac mae'n galw ar drigolion i helpu i gynyddu cyfraddau ailgylchu ledled y fwrdeistref sirol.
Gall methu â chyflawni targedau ailgylchu statudol arwain at gosbau ariannol i awdurdodau lleol, gan roi pwysau ychwanegol ar gyllid cyhoeddus sydd eisoes dan bwysau.
Meddai’r Cynghorydd David Jones, yr Aelod Cabinet ar gyfer Newid Hinsawdd a Chymunedau: "Rydym yn gwybod bod y mwyafrif helaeth o drigolion Merthyr Tudful wedi ymrwymo i ail-gylchu a hoffem ddiolch i bawb sy'n ail-gylchu'n rheolaidd. Fodd bynnag, mae deunyddiau y gellir eu hail-gylchu, yn enwedig gwastraff bwyd, yn dal i gael eu rhoi mewn biniau gwastraff cyffredinol.
Mae cyfraniad pob aelwyd yn bwysig. Drwy wneud newidiadau bychain a defnyddio'r gwasanaethau ail-gylchu a gwastraff bwyd sydd ar gael, gall trigolion ein helpu i wella ein perfformiad ail-gylchu a gweithio tuag at dargedau ail-gylchu Llywodraeth Cymru."
Un maes lle gellid gwneud gwelliannau sylweddol yw ail-gylchu gwastraff bwyd.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi darparu gwasanaeth casglu gwastraff bwyd wrth ymyl y ffordd i bob aelwyd ers 2016.
Er gwaethaf hyn, mae llawer iawn o wastraff bwyd yn parhau i gael ei waredu yn y biniau gwastraff cyffredinol bob wythnos.
Gellir ail-gylchu gwastraff bwyd a gesglir ar wahân a'i ddefnyddio i gynhyrchu ynni adnewyddadwy a gwrtaith sy'n llawn maetholion, gan helpu i leihau effaith amgylcheddol gwastraff.
Fel rhan o Wythnos Ailgylchu, annogir trigolion i:
- Ail-gylchu cymaint â phosibl bob wythnos.
- Defnyddio eu cadi gwastraff bwyd ar gyfer yr holl wastraff bwyd na ellir ei osgoi.
- Gwirio pa eitemau y gellir eu hail-gylchu drwy wasanaeth ail-gylchu'r Cyngor.
- Osgoi rhoi deunyddiau ailgylchadwy mewn biniau gwastraff cyffredinol.
Mae'r Cyngor yn atgoffa trigolion bod gwella cyfraddau ail-gylchu’n ymdrech ar y cyd sy'n fuddiol i'r amgylchedd, yn cefnogi uchelgeisiau Cymru fel arweinydd byd-eang mewn ail-gylchu ac yn helpu i ddiogelu adnoddau cyhoeddus.