Ar-lein, Mae'n arbed amser

Parc Rhanbarthol £700,000 i drawsnewid Canolfan Cyfarthfa

  • Categorïau : Press Release
  • 25 Medi 2019
Cyfarthfa Canolfan

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi croesawu’r cyhoeddiad o £700,000 i Barc Cyfarthfa fel rhan o gynlluniau ‘Pyrth Darganfod’ Parc Rhanbarthol y Cymoedd Llywodraeth Cymru.

Caiff yr arian ei ddefnyddio ar gyfer datblygiad pellach y Ganolfan i ddarparu gwell mynediad ac oriau agor, caffi gwasanaeth cyflawn a gwagle cwrdd cymunedol, a thoiledau newydd a darpariaeth newid yn y Pad Sblash.

 nod Adroddiad Crwsibl Cyfarthfa o osod y parc a’r ardal amgylchynol fel cyrchfan lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i ymwelwyr, cafodd yr angen i ailddatblygu’r Ganolfan ei nodi fel un ‘hanfodol’ gan Aelod Cabinet dros Adfywio a Diogelu’r Cyhoedd y Cynghorydd Geraint Thomas.

“Ni allai amseru’r arian ar gyfer Pyrth Darganfod fod yn well wrth i ni ddechrau gweithio ar ein cynlluniau i drawsnewid ardal Cyfarthfa i mewn i ganolfan dreftadaeth o arwyddocâd rhyngwladol,” dywedodd.

“Mae bwriad Prosiect Parc Rhanbarthol y Cymoedd o ddefnyddio treftadaeth naturiol a diwylliannol y rhanbarth i gynhyrchu buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol yn cysylltu’n berffaith â’n gweledigaeth ein hunain o’r hyn fydd Cynllun Cyfarthfa yn ei gyflawni.”

Wrth gyhoeddi cyfanswm buddsoddiad £6.6m yn 11 safle parciau a threftadaeth y Cymoedd, a elwir yn Byrth Darganfod, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford fod gan y safleoedd ‘gyfle gwych i adrodd straeon am y Cymoedd ac annog pobl leol ac ymwelwyr i archwilio’r ardaloedd amgylchynol, gan gynnwys trefi a phentrefi a’r tirlun ehangach.’

Dywedodd y byddai’r arian a gynlluniwyd i gael ei wario rhwng nawr a 2021, yn helpu i ddarparu ‘gwagleoedd diogel a chroesawgar y gall y gymuned leol eu mwynhau yn ogystal ag ymwelwyr o fannau pellach i ffwrdd.’

Pan gafodd y Ganolfan ei adeiladu 10 mlynedd yn ôl, y cynllun gwreiddiol oedd creu gwagle ar gyfer defnydd cymunedol. Ond mae’r mynediad ato yn wael a’r cyfleoedd arlwyo’n gyfyngedig.

Bydd yr ailddatblygiad yn sicrhau bod mynediad yn cael ei wella a bod y cyfleusterau ar gael drwy gydol y flwyddyn. Bydd y prosiect yn cynnwys creu caffi â chegin gyflawn, man paratoi bwyd, man cadw, cownter ac ardal eistedd.

Ymhlith y cyfleoedd pellach gaiff eu creu bydd gwagle ar gyfer cyfarfodydd a digwyddiadau, partïon plant, darparu hamperi picnic a gwasanaeth arlwyo symudol i wasanaethau’r parc fel y llyn a Chae Pandy.

Mae creu toiledau newydd a darpariaeth newid – gan gynnwys cyfleusterau i’r anabl – yn y Pad Sblash yn cael ei ystyried fel blaenoriaeth nid yn unig yn ystod prysurdeb tymor yr haf, ond hefyd ar gyfer teuluoedd lleol ac ymwelwyr sy’n mynychu digwyddiadau proffil uchel a gynhelir yn y parc drwy gydol y flwyddyn.

Bydd y Cyngor Bwrdeistref Sirol yn gweithio mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Hamdden Merthyr Tudful i gyflawni’r prosiect.

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Ymddiriedolaeth Hamdden Merthyr Tudful, Wellbeing@Merthyr, Sally Church, fod yr ymddiriedolaeth wrth ei bodd â’r cyhoeddiad diweddar am y dyfarniad arian i wella’r Ganolfan.

“Bydd y cyfleuster hwn sydd eisoes yn boblogaidd ym Mharc Cyfarthfa, yn mynd o nerth i nerth a bydd y tîm grêt sydd gennym ar y safle mor falch o allu cynnig amrywiaeth ehangach o fwyd o safon,” ychwanegodd. “Mae hyn yn fonws ar ben y dyfarniad diweddar oddi wrth Feysydd Chwarae Cymru am y Parc Gorau yng Nghymru.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Thomas: “Dywedodd adroddiad y Crwsibl, a gyhoeddwyd y llynedd gan Gomisiwn Dylunio Cymru, fod yna angen i greu profiad i ymwelwyr yng Nghyfarthfa ar raddfa ac ansawdd a fyddai’n ei nodi fel prif dirnod cenedlaethol ag apêl ryngwladol fel sy’n haeddiannol i gyfraniad canolog Merthyr i’r chwyldro diwydiannol.

“Bydd yr arian hwn i’r Parc yn helpu i gefnogi’r Ganolfan i ddyfod yn gyfleuster o ansawdd rhagorol sy’n cynnig darpariaeth eithriadol i dwristiaid a’r gymuned leol fel ei gilydd.”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni