Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cydnabyddiaeth, coffi a chacen i’r Cofrestryddion

  • Categorïau : Press Release
  • 01 Gor 2021
Merthyr Tydfil CBC Logo

Mae heddiw yn nodi sefydlu Diwrnod Cenedlaethol Cydnabyddiaeth y Cofrestryddion yng Ngwasanaeth Cofrestru’r Cyngor (1 Gorffennaf 2021) gan fyfyrio ar yr 16 mis caled a gafwyd yn llawn heriau cyson.  

Gobaith Cymdeithas Gwasanaethau y Cofrestryddion Lleol a’r Panel Cenedlaethol ar gyfer Cofrestru yw y bydd y digwyddiad yn un blynyddol yn y ‘calendr cydnabyddiaeth’, yn debyg i Ddiwrnod y Gweithwyr Cymdeithasol.  

“Roeddem ni am ddathlu ein gwasanaeth a’r holl bobl yr ydym yn gweithio â nhw – o’r gwasanaethau profedigaeth a’r bydwragedd i leoliadau priodas a gwasanaeth y crwner,” dywedodd siaradwr ar eu rhan.  Thema’r digwyddiad oedd ‘rhoi ein diolch’, a gwnaeth tîm y Cyngor Bwrdeistref Sirol hynny mewn bore coffi a chacen.

“Roedd  hwn yn fodd o longyfarch ein hunain am y gwaith caled a’r ymroddiad a ddangoswyd gan y staff - yn enwedig yn ystod y pandemig,” dywedodd y Cofrestrydd Uwch-arolygydd Lorraine Evans. 

“Roedd yn bwysig cydnabod eu hymroddiad a’u proffesiynoldeb wrth ddelio gyda llwyth gwaith llawer mwy ac amgylchiadau anodd ers i’r pandemig ddechrau.”

Ymhlith yr heriau niferus, er gwaetha’r ffaith fod y swyddfa gofrestru ar gau i’r cyhoedd yn ystod y cyfnod clo cychwynnol, darparwyd gwasanaeth o’r swyddfa a chynnal pellter cymdeithasol a sicrhau fod y swyddfeydd yn ddiogel rhag Covid.

“Fel dolen hanfodol o ran rheolaeth marwolaeth, gwnaethom ni lwyddo i reoli cynnydd sylweddol o ran cofrestru marwolaethau, a’r ôl-groniad o 800 o enedigaethau a gafwyd yn ystod y cyfnod clo,” ychwanegodd Lorraine.

“Roedden ni hefyd yn rheoli disgwyliadau’r cyplau hynny a oedd wedi canslo priodasau/ partneriaethau sifil a’r rheini oedd am wneud trefniadau newydd, gan addasu i ddeddfwriaeth newydd a diwygiedig a hyfforddi aelod o staff a oedd wedi ei secondio o adran arall i dynnu’r pwysau oddi ar y staff.

“Ein gobaith yw y daw Diwrnod Cenedlaethol Cydnabyddiaeth y Cofrestryddion yn ddigwyddiad blynyddol gan ein bod ni’n teimlo fod gwir angen cydnabyddiaeth ar ein staff am y modd y maen nhw wedi ymdopi – ac yn parhau i ymdopi â holl newidiadau cofrestru.”

 

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni