Ar-lein, Mae'n arbed amser
Ail lansiad Grant Cyfalaf MGTCh er mwyn cefnogi'r diwydiant twristiaeth, chwaraeon a grwpiau cymunedol
- Categorïau : Press Release , Council , Corporate
- 13 Mai 2022

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ail lansio ei rhaglen grantiau i gefnogi mentrau cymunedol, grwpiau cymunedol, busnesau twristiaid a chlybiau chwaraeon dalu am brojectau cyfalaf.
Bydd Grant Cyfalaf Mentrau Cymunedol, Chwaraeon Twristiaeth a Chwaraeon (MGTCh) yn cefnogi ceiswyr i gynnal gwaith adeiladu ac isadeiledd a phrynu er mwyn eu galluogi i ehangu ar ei gwasanaeth a gweithgareddau presennol.
Yn dilyn llwyddiant grant y llynedd mae’r Cyngor wedi addo £250,000 ychwanegol i’r rhaglen yn ystod y flwyddyn ariannol ac mae hyd at £25,000 ar gael.
“Mae’r Cyngor yn cydnabod yr angen i gefnogi pob math o fentrau cymdeithasol a grwpiau, busnesau twristiaeth a chlybiau chwaraeon gyda chyllid cyfalaf,” meddai Chris Long, Pennaeth Tai ac Adfywio.
“Mae hyn yn arbennig o wiry n dilyn y pandemig, ble mae llawer o sefydliadau wedi colli incwm ac wedi methu buddsoddi mewn cynnal a chadw a chynllunio ar gyfer tyfiant. Mae’r grant wedi ei gynllunio i roi help llaw iddynt.”
Er hyn, nid yw’r cynllun yn gallu talu am addasiadau a waned yn sgil y pandemig, neu astudiaethau dichonolrwydd mewn perthynas â gwaith cyfalaf posib.
Cyllid cymwys fydd:
- Gwaith adeiladu tu fewn neu du allan sy’n gwella neu ddiogelu'r busnes/ adeilad
- Prynu sylweddol ar gyfer isadeiledd
- Gwaith cyfalaf i gynorthwyo Trosglwyddo Asedau Cymunedol (TAC)
Ni ellir gwneud ceisiadau am:
- Gostau refeniw
- Addasiadau Covid-19 megis sgriniau
- Costau prynu adeilad, tir neu gerbydau
- Costau sy’n arferol
- Busnesau Airbnb
- Projectau sy’n troi tai yn fusnesau lletygarwch
- Astudiaethau dichonolrwydd neu gostau pensaer ar gyfer gwaith datblygu cyfalaf
- Gweithdrefnau statudol fel caniatâd cynllunio neu reoliadau adeiladu
- Offer neu eitemau eraill sy’n dymhorol neu yn cael ei defnyddio unwaith
- Costau ôl syllol ar gyfer gwaith neu offer sydd wedi ei wneud/ brynu’n barod
Rhaid i geiswyr fod yn fusnesau twristiaeth yn barod (atyniadau a darparwyr llety yn bennaf); unrhyw fath o fusnes cymdeithasol, menter gymdeithasol, grŵp cymunedol CIC, clwb chwaraeon, mudiad ieuenctid, grŵp addoli, Cymdeithas breswylwyr ayyb; rhaid i’r busnes/ sefydliad fod ym Merthyr Tudful.
Y mwyafswm y gellir ceisio amdano yw £25,000. Bydd disgwyl i geisiadau sy’n gofyn am fwy na £15,000 gyfrannu 20% tuag at gostau llawn y project. Ar gyfer projectau yn costio llai na £15,000, nid oes gofyn am ariannu cyfatebol
Dyddiad cau ceisiadau yw dydd Iau Mai’r 26ain 2022. .
Yn y man cyntaf bydd angen cofrestru diddordeb trwy e-bostio CRF@merthyr.gov.uk byddwch yn derbyn ffurflen gais a dogfen ganllaw ar gyfer y Grant Cyfalaf MGTCh. Bydd y Tîm Adfywio Cymunedol ar gael i ateb unrhyw gwestiwn trwy e-bost.