Ar-lein, Mae'n arbed amser

Dileu troad i’r dde dros dro ar Stryd Bethesda

  • Categorïau : Press Release
  • 25 Maw 2022
Merthyr Tydfil CBC Logo

Hoffai’r Cyngor Bwrdeistref Sirol sicrhau preswylwyr bod dileu'r troad i’r dde o Stryd Bethesda i Lannau’r Capel yn fesur dros dro.

Fel rhan o’r cynlluniau i wella diogelwch a’r amgylchedd i gerddwyr yn defnyddio rhan brysur o’r Daith Taf, mae’r troad wedi ei dileu er mwyn i’r gwaith o gyffordd Glannau’r Capel i oleuadau traffig Ffordd Cyfarthfa gael ei gwblhau.

Mae’r gwaith yn creu llwybr wedi ei rannu ar gyfer cerddwyr a seiclwyr sy’n teithio ar hyd Ffordd Bethesda, o’r groesfan belican ger bwyty y Red Spice at y goleuadau ar y gyffordd gyda Ffordd Abertawe.

Mae lled y ffordd yn cael ei gulhau yn sylweddol er mwyn arafu'r traffig sy’n defnyddio’r ffordd. 

Nodwch y bydd y troad i’r dde yn cael ei ail sefydlu wrth gwblhau'r gwaith. Hoffai’r Cyngor ddiolch i yrwyr a cherddwyr am eu cydweithrediad a’u hamynedd.

Os oes gennych gwestiwn neu bryderon mewn perthynas â’r gwaith neu eisiau copi o’r llwybr gwyriad  amgen cysylltwch gyda Georgie Davies ar 0330 0412 183. Neu gallwch e-bostio, georgie.davies@alungriffiths.co.uk

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni