Ar-lein, Mae'n arbed amser
Preswylwyr yn cytuno ar drefniadau i osod camerâu cyflymder cyfartalog
- Categorïau : Press Release
- 27 Mai 2021
Yn dilyn dwy rownd o ymgynghoriadau, mae preswylwyr Ynys Owen a Bryn Teg wedi cytuno y dylid gosod camerâu cyflymder cyfartalog ar y rhan o’r A4054, Heol Caerdydd sydd yn mynd trwy’r pentrefi.
Yn ystod cam un yr ymgynghoriad, cytunodd 98% o’r sawl a holwyd, a oedd yn cynnwys preswylwyr a’r cyhoedd fod goryrru yn broblem ar hyd y ffordd a chytunodd 80% fod angen mesurau i ostegu’r traffig.
Yn ystod cam dau, cytunodd 78% y dylai camerâu cyflymder cyfartalog gael eu gosod.
Dywedodd y Cynghorwyr Ward, Darren Roberts a Scott Thomas: “Yn dilyn nifer o ddamweiniau a chwynion ynghylch goryrru trwy Ynys Owen a Bryn Teg, gofynnwyd i’r Awdurdod Lleol i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus er mwyn clywed sylwadau a phryderon y preswylwyr a defnyddwyr y ffordd.
“Hoffem ddiolch i bawb a gyfranogodd ac rydym yn croesawu’r canlyniad. Bydd ychwanegu camerâu cyflymder cyfartalog yn yr ardal yn sicrhau fod y rhan hwn o’r ffordd rhwng y ddau bentref yn fwy diogel i bawb, gan gynnwys plant sydd yn defnyddio’r ffodd i gerdded i’r ysgol.
“Fel eich Cynghorwyr Ward, bûm yn gwrando ar eich pryderon gan weithredu arnynt a darparu’r hyn y gofynnwyd amdano gan y preswylwyr. Hoffem hefyd ddiolch i swyddogion yr Awdurdod Lleol a fu’n cynorthwyo i ddarparu’r deilliant cadarnhaol hwn.”
Bydd Swyddogion y Cyngor yn awr yn cydlynu â Gan Bwyll, yr Heddlu a Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau fod y camerâu’n cael eu gosod a rhagamcanir y bydd y gwaith yn mynd rhagddo ym mis Medi.
O ganlyniad i’r arolwg hwn a’i ganfyddiadau, byddwn yn awr yn ymgynghori â phentrefi eraill sydd ar hyd y ffordd er mwy gweld a oes angen gosod rhagor o gamerâu cyflymder cyfartalog rhwng Mynwent y Crynwyr a Phentrebach.