Ar-lein, Mae'n arbed amser
Gofyn am sylwadau preswylwyr ar welliannau i gylchfan Tesco
- Categorïau : Press Release
- 29 Medi 2021
Fel rhan o’r cynllun Teithio Llesol a ariannir gan Lywodraeth Cymru, mae’r Cyngor Bwrdeistref Sirol yn cynllunio gwelliannau i gylchfan Tesco er mwyn sicrhau y gall cerddwyr groesi’r ffordd yn fwy diogel.
Bydd y cynllun yn cynnwys creu croesfannau ar bob un fraich o’r gyffordd (gweler y cynllun) a gosod ynysoedd canolog er mwyn caniatáu i bobl groesi’r ffordd mewn dau gam.
Bydd hefyd cyswllt ar gael o Stryd Alma gan fod y Cyngor yn cydnabod fod hwn yn llwybr poblogaidd i breswylwyr.
Mae’r gwelliannau hyn yn rhan o gynllun ehangach Teithio Llesol ar gyfer 2021/22, yn ogystal â’r gwaith ar gyfer Stryd Bethesda, Avenue de Clichy, Stryd y Llys a Stryd Fictoria.
E-bostiwch unrhyw sylwadau at active.travel@merthyr.gov.uk