Ar-lein, Mae'n arbed amser
Annog preswylwyr i gymryd rhan mewn arolwg tlodi bwyd
- Categorïau : Press Release
- 08 Meh 2022
Mae’r Cyngor Bwrdeistref Sirol yn annog preswylwyr ym Merthyr Tudful a grwpiau cymunedol i siarad am faterion bwyd fel rhan o argymhelliad i daclo'r argyfwng costau byw.
Mae’r ymgynghorwyr arbennigol Miller Research yn gweithio ar greu Strategaeth Tlodi Bwyd ar gyfer partneriaeth Rhwydwaith Ffyniant Bwyd Merthyr Tudful, sy’n cynnwys yr awdurdod lleol ac ystod o bartneriaid eraill.
Amcan y Strategaeth yw mabwysiadu dull cydweithredol er mwyn helpu ‘gwella hygyrchedd bwyd maethlon ar gyfer pobl leol’. Fel rhan o’r gwaith ymchwil, mae’r cwmni yn cynnal dau arolwg o farn pobl.
“Rydym yn gwybod bod mater tlodi bwyd ym Merthyr Tudful, sy’n gwaethygu oherwydd yr argyfwng costau byw,” meddai’r Cyng. Geraint Thomas Arweinydd y Cyngor ac aelod cabinet dros adfywio.
“Y diben yw gweld yn well pa mor eang yw mater tlodi bwyd ym Merthyr Tudful, a deall yn well ymwybyddiaeth/ safbwyntiau preswylwyr am y mater”.Ychwanegodd
“Rydym yn edrych yn arbennig ar brofiadau pobl am y gallu i fforddio a hygyrchedd at fwyd yn ystod yr argyfwng costau byw presennol ac yn ystod y pandemig Covid-19.”
Fel cymhelliad ychwanegol, bydd pawb sy’n cwblhau’r arolwg yn cael yr opsiwn i gymryd rhan mewn raffl gyda siawns o ennill taleb gwerth £50 o Argos.
Gall preswylwyr unigol gymryd rhan yn yr arolwg cyntaf yma:
Welsh Language Residents Survey
Mae’r ail arolwg wedi ei hanelu at fudiadau gwirfoddol/ trydydd sector a grwpiau cymunedol sy’n darparu cymorth i breswylwyr yn y gobaith y byddant yn nodi bylchau yn y gefnogaeth, ac yn deall pa help mae sefydliadau ei angen yn y misoedd nesaf er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth yn gynaliadwy.
Gall grwpiau gymryd rhan yn yr ail arolwg yma:
Welsh Language Community Action Survey
Mae’r arolwg yn cymryd tua 10 munud i’w gwblhau. Er mwyn cymryd rhan yn y raffl, bydd angen cynnwys eich cyfeiriad e-bost ar ddiwedd yr arolwg. Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis ar hap.
Os oes unrhyw gwestiwn gennych, cysylltwch gyda Jessica Mann (jessica@miller-research.co.uk).