Ar-lein, Mae'n arbed amser
Gwahoddiad i breswylwyr ddweud eu dweud am gyllideb y Cyngor
- Categorïau : Press Release , Council
- 17 Tach 2021
Mae preswylwyr Merthyr Tudful yn cael y cyfle i leisio barn am sut y dylai y Cyngor wario eu cyllideb am 2022/23.
Bydd ymgyrch ymgynghori cyhoeddus yn digwydd rhwng Tachwedd 17eg 2021 a Chwefror y 9fed 2022 a tros y misoedd nesaf bydd Cabinet y Cyngor ar hyd a lled Merthyr Tudful yn eich annog chi y preswylwyr pa wasanaethau y dylid eu blaenoriaethu yn ogystal a sut y credwch y dylid gosod y gyllideb am y flwyddyn i ddod. Bydd Aelodau y Cabinet ar gael i wrando,i ateb cwestiynau ac i rannu awgrymiadau gyda cydweithwyr a thrafod.
Mae manylion am ddyddiadau y daith yn cael eu cwblhau a byddwn yn cyhoeddi y manylion ar ein gwefan ac ar gyfryngau cymdeithasol yn fuan.
Yn y cyfamser mae arolwg ar-lein ar gael (gweler isod) a gellir archebu copiau papur trwy ffonio 01685 275000 neu e-bostio: Corporate.Communications@merthyr.gov.uk
Am wybodaeth pellach, dilynwch ni:For
Dilynwch y linc i gymeryd rhan yn ein arolwg ar-lein: smartsurvey.co.uk/s/MTCBCBudget22-23