Ar-lein, Mae'n arbed amser
Annog preswylwyr i adrodd am dwyll
- Categorïau : Press Release
- 20 Tach 2024
![Fraud Week ENGLISH](/media/10329/fraud-week-english.png?width=500)
Mae'r wythnos hon yn Wythnos Ymwybyddiaeth Twyll Ryngwladol, felly rydyn ni'n taflu sylw at dwyll.
Er ei fod yn aml yn gudd, twyll yw'r drosedd fwyaf treiddiol ac esblygol mewn cymdeithas heddiw ac mae'r her y mae'n ei chyflwyno i'n Cyngor yn sylweddol. Yn ôl ffigyrau'r Swyddfa Gartref (23 Mawrth), amcangyfrifir bod y gost i awdurdodau lleol yn £8.2 biliwn y flwyddyn.
Dywedodd y Cynghorydd Jamie Scriven, Aelod Cabinet dros Adfywio, Gwarchod y Cyhoedd a Thai: "Dyw Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ddim goddef twyll, llwgrwobrwyo na llygredd, ac mae gennym Swyddog Twyll ymroddedig sy'n ymchwilio i bob honiad yn erbyn y Cyngor.
"Mae pob £1 y mae ein Cyngor yn ei golli i dwyll yn £1 na ellir ei wario ar gefnogi'r gymuned felly os ydych yn amau twyll, rydym yn eich annog i roi gwybod amdano. Bydd eich atgyfeiriad yn cael ei gymryd o ddifrif."
Gallwch wneud adroddiad yn ddienw – fodd bynnag, bydd o gymorth mawr i unrhyw ymchwiliad os byddwch yn rhoi eich enw a'ch manylion cyswllt, gyda chymaint o fanylion â phosib.
Gallwch nodi eich pryderon ar:
- Llinell Gwrth-dwyll y Cyngor: ☎ 01685 725111
- E-bost: fraudline@merthyr.gov.uk
- Tab 'adrodd' ar wefan y Cyngor