Ar-lein, Mae'n arbed amser
Annogir Trigolion i Roi Gwybod am Gerbydau sy’n Gyrru oddi ar yr Hewl
- Categorïau : Press Release
- 14 Gor 2025

Angoir trioglion Merthyr Tudful i roi gwybod am gerbydau sy’n gyrru oddi ar yr hewl mewn ymgais i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrth-gymdeithasol.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn cydweithio â Heddlu De Cymru, Cymdeithas Dai Merthyr Tudful a Chartrefi Cymoedd Merthyr i godi ymwybyddiaeth ac i ofyn am gefnogaeth gan aelodau’r gymuned i rannu gwybodaeth.
Meddai’r Cynghorydd Declan Sammon, yr Aelod Cabinet dros Drawsnewidiad, Rheolaeth a Phartneriaeth Gymdeithasol: “Mae beicio oddi ar yr hewl yn broblem sy’n wynebu nifer o ardaloedd, yn arbennig yn ystod misoedd yr haf, ac yn y fan hon ym Merthyr Tudful wynebwn yr un broblem. Rydym yn derbyn cwynion rheolaidd am gerbydau oddi ar yr hewl yn cael eu gyrru’n ddi-hid, sy’n achosi niwed i’n hamgylchedd lleol, yn dinistrio ein mannau gwyrdd prydferth ac yn beryg i gerddwyr ac eraill sy’n defnyddio’r hewl.
“Mae ein rhwydwaith eang o Deledu Cylch Cyfyng yn cael ei ddefnyddio i ddod o hyd i achosion a’r sawl sy’n cymryd rhan ond rydym yn dal i fod angen eich cefnogaeth, felly rydym yn galw ar aelodau o’r cyhoedd i’n helpu. Os ydych chi’n gweld cerbyd yn gyrru oddi ar yr hewl, rydym yn eich annog i roi gwybod i’r heddlu drwy ffonio 101 gyda disgrifiad o’r cerbyd ac o’r gyrrwr, yn ogystal â lleoliad y drosedd. Bydd hwn yn cynorthwyo’r heddlu i ymateb yn gyflym. Rydym hefyd yn gofyn am gymorth i ddarganfod ym mhle cedwir y cerbydau hyn.
“Mae angen eich cymorth arnom, cyn bod rhywun yn cael eu hanafu’n wael, neu’n waeth.”
Meddai Meirion Collings, Arolygydd Heddlu Cymdogaeth Merthyr Tudful: “Rydym yn ymwybodol o’r pryder dybryd o fewn cymuned Merthyr Tudful ynghylch defnydd amhriodol o gerbydau sy’n gyrru oddi ar yr hewl.
“Defnyddir ystod eang o gerbydau i yrru oddi ar yr hewl gan gynnwys beiciau cwad, beiciau modur, sgramblwyr, a motos-mini. Tra bod modd defnyddio’r cerbydau hyn ar dir preifat gyda chaniatâd y tirfeddiannwr, mae’n bwysig cadw at y rheoliadau a osodir gan Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988, sy’n gwahardd gyrwyr rhag defnyddio cerbydau peiriannol ar dir heb ganiatâd. Mae hwn yn cynnwys tir comin, gweundir ac unrhyw ardaloedd nad sy’n ffyrdd, yn cynnwys llwybrau troed, heolydd ceffylau a mân hewlydd cyfyngedig.
“Hanfodol yw nodi bod ffyrdd heb wyneb a heb eu dosbarthu, a elwir yn aml yn ffyrdd gwyrdd neu’n lonydd gwyrdd, yn ogystal â ffyrdd cul sydd ar agor i bob traffig, yn cael eu hystyried yn ffyrdd. Golyga hyn bod yn rhaid i feicwyr feddu ar drwydded yrru ac yswiriant dilys, a rhaid i’r cerbyd fod wedi’i gofrestru a’i drethu. Yn ogystal, er mwyn gweithredu ar dir cyhoeddus, megis parciau, mae’n ofynnol i feicwyr gael caniatâd gan yr awdurdod lleol.
“Mae’n rhaid i yrwyr a’u cerbydau ill dau gydymffurfio ag ystod o reoliadau, sy’n golygu bod yn rhaid bod y cerbydau hyn gael eu cymeradwyo, eu cofrestru, eu trethi, a, lle fo’n briodol, mae’n rhaid bod ganddynt dystysgrif MOT dilys er mwyn gallu eu defnyddio’n gyfreithlon ar yr hewl.
“Rydym yn cyhoeddi rhybudd cryf i’r sawl sy’n parhau i yrru’r peiriannau hyn yn anghyfreithlon, ac wrth wneud hynny, gosod y cyhoedd mewn peryg. Dylai troseddwyr fod yn ymwybodol y byddwn yn sylwi ar eu gweithredoedd, ac y gallem atafaelu eu cerbydau. Mae canlyniadau gyrru’n anghyfreithlon oddi ar yr hewl yn effeithio’n cymunedau lleol yn ddirfawr, ac rydym yn gadarn yn ein hymrwymiad i beidio â goddef ymddygiad o’r fath.”
Os ydych yn gweld rhywun yn gyrru’n anghyfreithlon oddi ar yr hewl, gallwch roi gwybod i’r heddlu drwy ffonio 101. Gallwch hefyd wneud hwn yn anhysbys drwy Crimestoppers wrth ffonio 0800 555 111 neu wrth ddefnyddio gwefan Crimestoppers.