Ar-lein, Mae'n arbed amser
Ailwampio’r gwasanaeth ‘Dewin Tai’
- Categorïau : Press Release
- 17 Rhag 2019
Mae gan bobl sy’n chwilio am dai cymdeithasol ym Merthyr Tudful amrywiaeth o gymorth a chyngor bellach sydd ar gael ar-lein yn dilyn ailwampio gwasanaeth ‘Dewin Tai’ y Cyngor Bwrdeistref Sirol.
Mae gwe-dudalen Merthyr Tudful Fyw hefyd yn darparu gwybodaeth am amrywiaeth o bynciau, o ddigartrefedd i gyfnewid cilyddol a chyngor ar ddyled.
Mae’r wefan ei hun yn eich galluogi chi i gofrestru cyfrif defnyddiwr, gweld pa dai cymdeithasol gaiff eu hysbysebu i’w rhentu, ymgeisio am dai a ddarperir gan bedwar cymdeithas tai Merthyr Tudful ac ystyried opsiynau tai ehangach – gan gynnwys rhentu preifat.
Mae’r Dewin Tai – neu Ganllaw Hunan Gymorth Atebion Tai – yn gofyn cyfres o gwestiynau i ddarparu cynllun tai personol sy’n cynnwys yr holl wasanaethau cymorth tai a gwasanaethau perthnasol ym Merthyr Tudful.
Gallwch gael mynediad at y Dewin Tai yma: https://bit.ly/2tcbetB