Ar-lein, Mae'n arbed amser
Ffordd ar gau ar gyfer gosod pont droed yr Afon Taf
- Categorïau : Press Release , Council
- 03 Maw 2023

Bydd rhan o’r Avenue de Clichy ar gau am y dydd, ddydd Sul nesaf (Mawrth 12) ar gyfer gosod pont droed newydd dros yr Afon Taf.
Mae’r bont droed sy’n cysylltu Pentref Hamdden Merthyr, Rhydycar i ganol y dref yn cael ei newid fel rhan o raglen welliannau Teithio Llesol y Cyngor, a gyllidir gan Lywodraeth Cymru.
Roedd cyfyngiad uchder ar yr hen bont ac roedd yn rhy gul i gerddwyr a seiclwyr i groesi ar yr un pryd. Mae’r bont newydd yn cael ei gosod ychydig i’r gogledd ger man croesi newydd a bydd yn 3.5m o led, gan alluogi cerddwyr a seiclwyr i groesi ar yr un pryd.
Bydd y ffordd ar gau rhwng 9am a 9pm er mwyn galluogi craen i godi’r bont i’w lle. Bydd arwyddion gwyriad er mwyn hysbysu modurwyr sut i deithio trwy ganol y dref.
Dwedodd Arweinydd y Cyngor y Cynghorydd Geraint Thomas: “ Rydym eisiau gwneud bywyd yn haws i bobl sy’n croesi'r bont mewn cadair olwyn neu fygi a hefyd eisiau annog seiclwyr ac eraill yn defnyddio'r Daith Taf i ddod i ganol y dref.”