Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cau’r ffordd ar gyfer Diwrnod Treftadaeth Oes Fictoria Pontmorlais
- Categorïau : Press Release
- 16 Awst 2022

Bydd nifer o ffyrdd canol y dref ar gau yn ystod y dydd, dydd Iau (Awst 18) ar gyfer ‘Diwrnod Treftadaeth Oes Fictoria’ Treflun Pontmorlais.
Rhwng 6am a 4:30pm, bydd y ffyrdd ar gau ar:
- Stryd Fawr Pontmorlais – bydd gwyriad i’r traffig i’r dde ger Banc Lloyds i Stryd yr Eglwys
- Gogledd Ochr y Dramffordd
- Stryd y Castell
Wedi ei drefnu gan y Cyngor mewn partneriaeth gyda Big Heart o Merthyr Tudful, BID bydd y digwyddiad yn rhedeg rhwng 11am a 3pm, ac mae wedi ei gynllunio i roi cip olwg i ymwelwyr o sut fyddai canol y dref yn edrych bron I 200 mlynedd yn ôl.
Bydd masnachwyr a staff mewn gwisg oes Fictoria, gyda chyhoeddwr, meistr haearn gwaith Cyfarthfa, William Crawshay a gweithgareddau yn cynnwys cert a cheffyl, sioe Pwnsh a Siwan a chychod siglo – un o’r mathau cynharaf o reidiau o oes Fictoria.
Mae Big Heart Merthyr Tudful BID hefyd yn trefnu gemau o’r 19eg ganrif ar Stryd Graham, o stondin ennill cneuen goco, bachu hwyaden a hwpla.
Bydd gweithgareddau eraill yn rhad ac am ddim ar gyfer y teulu cyfan yn Theatr Soar gyda sesiwn dweud stori draddodiadol a chelf a chrefft.
Bydd Marchnad Grefftwyr Merthyr ar y stryd Fawr yn gwerthu cynnyrch lleol a chynnyrch wedi ei wneud gyda llaw.
Mae’r Diwrnod Treftadaeth Oes Fictoria yn rhan o Fenter Tirlun Pontmorlais a ariennir trwy fuddsoddiad preifat, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Cadw a rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau cysylltwch gyda towncentre@merthyr.gov.uk