Ar-lein, Mae'n arbed amser
Ffyrdd ar gau dros nos ar gyfer gwaith croesfan cerddwyr
- Categorïau : Press Release , Council
- 17 Chw 2022

Bydd rhannau o’r Stryd Fawr Isaf far gau dros nos dros y ddau Sul nesaf ar gyfer adeiladu croesfan gerddwyr newydd rhwng maes parcio'r Stryd Fawr a ‘siopau’r ffynnon’ ar yr ochr draw.
Bydd ochr ogleddol y ffordd ar gau dydd Sul yma (Chwefror 20) o 6pm tan 6am ddydd Llun, ac ochr ddeheuol y ffordd ar gau'r un amser ar ddydd Sul Chwefror 27 i greu croesfan pâl a marciau ffordd newydd, ail greu'r droedffordd ac ail-wynebu'r ffordd. Bydd llwybr amgen mewn lle gydag arwyddion amlwg.
Bydd y maes parcio ei hun hefyd ar gau o 6pm ddydd Sul tan 12am ddydd llun Chwefror 28.
Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Tai a Masnacheiddio'r Cynghorydd Geraint Thomas,: “ Mae’r groesfan yn cael ei hadeiladu fel rhan o welliannau i gerddwyr a seiclwyr yng nghanol y dref o gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer Teithio Llesol.
“Hoffem ddiolch i gerddwyr a gyrwyr cerbydau am eu hamynedd a chydweithrediad tra bo’r gwaith yn digwydd.”
Anfonwch unrhyw sylwadau at active.travel@merthyr.gov.uk