Ar-lein, Mae'n arbed amser

Gwaith ffordd ar Stryd Bethesda

  • Categorïau : Press Release
  • 14 Meh 2022
Roadworks

Bydd y ffordd ar gau dros nos am un noson a goleuadau dros dro am dri diwrnod yr wythnos nesaf er mwyn galluogi'r Cyngor i gwblhau’r gwelliannau ffordd yn ardal Stryd Bethesda.

Mae’r Cyngor wedi troi rhan o Stryd Bethesda yn llwybr ar y cyd gyda cherddwyr fel rhan o raglen Teithio Llesol a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r contractwyr Griffiths, sydd wedi bod yn gwneud y gwaith ar ran y Cyngor yn dychwelyd ddydd Llun nesaf (Mehefin 13) er mwyn cwblhau'r gwaith goleuadau traffig ar ddau ben Stryd Bethesda.
Bydd hyn yn golygu:

• Goleuadau traffig dros dro bedair ffordd ar Ffordd Cyfarthfa o ddydd Llun tan ddydd Mercher Mehefin 15.

• Y ffordd o Avenue De Clichy/ goleuadau traffig Rhes y Chwarel yn arwain at ond ddim yn cynnwys Glannau’r Capel ar gau rhwng 6pm ddydd Mawrth Mehefin 14 a 6am ddydd Mercher Mehefin 15.

Bydd peth aflonyddwch ar gyfer defnyddwyr y ffordd, a gofynnwn i breswylwyr ystyried y gwaith wrth gynllunio teithiau. Bydd mynediad i gerbydau yn defnyddio Glannau’r Capel yn cael ei gynnal trwy lwybr amgen yn ystod y cyfnod cau’r ffordd.

Bydd cerddwyr a cherbydau’r Gwasanaethau Brys yn cael mynediad trwy’r adeg. Gall yr oriau newid ac mae yn dibynnu ar y tywydd. Nodwch, mae’n bosib y bydd peth sŵn yn ystod y gwaith.

Os oes gennych unrhyw gwestiwn neu bryderon am y gwaith, neu am dderbyn copi o’r llwybr amgen, cysylltwch gyda Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus y cynllun Georgie Davies, ar 0330 0412 183, neu e-bostio  georgie.davies@alungriffiths.co.uk; neu e-bostio active.travel@merthyr.gov.uk.

Hoffem gymryd y cyfle i ddiolch i chi am eich amynedd a chydweithrediad ac ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni