Ar-lein, Mae'n arbed amser
Apêl gan RSPCA Cymru wedi i dair cath farw gael eu darganfod mewn bag yn Nhroedyrhiw
- Categorïau : Press Release
- 25 Medi 2023

Lansiwyd apêl am wybodaeth wedi i dair cath farw gael eu darganfod mewn bag cefn yn Nhroedyrhiw, Merthyr Tudful.
Cafodd cath feichiog a dwy gath fach eu darganfod gan ddisgybl ysgol ger tir gwastraff y tu allan i Ysgol Uwchradd Afon Taf yn Nhroedyrhiw, Ddydd Iau 21 Medi. Cafodd y bag ag arno logo tîm pêl-droed Lerpwl ei ddarganfod ar ochr dde pont gyfagos.
Hysbyswyd y Cyngor ac aethpwyd â’r bag at filfeddyg cyfagos.
Daethpwyd o hyd i gath frech a gwyn feichiog, cath fach frech oedd rhwng pedwar a chwe mis oed a chath fach ddu a gwyn oedd rhwng tri a phedwar mis oed. Nid yw’n wybyddus sut y buont farw.
Mae RSPCA Cymru yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â hwy ar 0300 123 8018 gan nodi’r rhif 01157049.
Dywedodd Gemma Cooper, Dirprwy Arolygydd yr RSPCA: ” Mae hwn yn ddigwyddiad trist iawn ac mae’n meddyliau gyda’r disgybl a ddaeth ar eu traws. Mae’n rhaid ei fod wedi bod yn brofiad brawychus.
“Nid oedd gan y cathod goleri na microchipiau ac mae’n debyg fod y cathod o doreidiau gwahanol. Nid oes gennym fawr o wybodaeth ar hyn o bryd. Nid ydym yn gwybod beth oedd amgylchiadau’r marwolaethau nac am ba hir y buont yn y bag cefn. Nid oedd ganddynt unrhyw anafiadau amlwg ac nid ydym wedi gallu dod o hyd i unrhyw CCTV.
“Os oes gan unrhyw un wybodaeth ynghylch y digwyddiad, ffoniwch ni ar 0300 123 8018. Rydym yn parhau i wneud ymholiadau a byddem yn gwerthfawrogi cymorth gan y cyhoedd.”
Mae’r RSPCA yn darparu cymorth argyfwng costau byw dynodedig ar gyfer perchnogion anifeiliaid anwes ac mae hyn yn cynnwys llinell gymorth - 0300 123 0650 a hyb ar-lein lle y gellir dod o hyd i gyngor gan gynnwys gwybodaeth ynghylch cynlluniau banciau bwyd ar gyfer anifeiliaid.