Ar-lein, Mae'n arbed amser

Wythnos Diogelu 2025 – Niwed Ar-lein: Cadw eich hunain ac eraill yn ddiogel

  • Categorïau : Press Release
  • 10 Tach 2025
online safeguarding

Mae Wythnos Diogelu 2025 yn ymgyrch flynyddol genedlaethol sy'n cael ei gynnal rhwng dydd Llun, 10 Tachwedd a dydd Gwener, 14 Tachwedd. Eleni, mae Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg yn canolbwyntio ar y thema Niwed Ar-lein: Cadw eich hunain ac eraill yn ddiogel.

Drwy gydol yr wythnos, byddwn ni'n codi ymwybyddiaeth ledled Merthyr Tudful am risgiau niwed a cham-drin ar-lein, a sut y mae modd i unigolion amddiffyn eu hunain ac eraill mewn mannau digidol.

Beth yw niwed a cham-drin ar-lein?

Mae niwed ar-lein yn cyfeirio at y risgiau y mae modd i bobl eu hwynebu trwy lwyfannau digidol. Mae modd iddo effeithio ar unrhyw un, waeth beth fo'u hoedran neu eu cefndir, ac yn aml mae'n digwydd mewn mannau bob dydd megis y cyfryngau cymdeithasol, apiau negeseuon, llwyfannau gemau a gwefannau.

Mae mathau o niwed ar-lein yn cynnwys:

  • Cam-drin cymdeithasol ac emosiynol: Seiberfwlio, aflonyddu ar-lein, seiberstelcio, docsio.
  • Cam-drin a chamfanteisio rhywiol: Meithrin priodas amhriodol, gorfodaeth, rhannu delweddau rhywiol heb ganiatâd (a eliwir hefyd yn 'revenge porn'), pobl ffug.
  • Cynnwys niweidiol ar-lein: Araith gasineb, deunydd eithafol, heriau peryglus ar-lein.
  • Sgamiau a Thwyll Ariannol: Gwe-rwydo, sgamiau rhamant, sgamiau buddsoddi.

Mae Wythnos Diogelu yn gyfnod penodol i dynnu sylw at y materion sy'n effeithio ar ddiogelwch a lles unigolion yn ein cymunedau. Drwy ganolbwyntio ar niwed ar-lein, ein nod yw codi ymwybyddiaeth o'r risgiau y mae pobl yn eu hwynebu mewn mannau digidol wrth eu grymuso â'r wybodaeth i aros yn ddiogel.

Mae pawb yn gyfrifol am ddiogelu, p'un a ydych chi'n rhiant, yn warcheidwad, yn weithiwr proffesiynol neu'n aelod o'r cyhoedd. Mae'r wythnos yma'n gyfle i ddysgu, i rannu a chymryd camau i amddiffyn ein hunan ac eraill.

Dywedodd y Cynghorydd Louise Minett-Vokes, Aelod y Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Chyfranogiad Ieuenctid: “Yn y byd digidol heddiw, mae amddiffyn ein hunain a’n hanwyliaid yn mynd ymhell y tu hwnt i ffiniau ffisegol. Wythnos Diogelu yw ein cyfle i roi’r wybodaeth a’r offer i bawb lywio mannau digidol yn ddiogel ac yn hyderus.”

Achlysuron Lleol

Yn ystod yr wythnos, bydd sawl achlysur yn cael eu cynnal ledled ardal Cwm Taf Morgannwg. Mae'r rhai sydd ar agor i'r cyhoedd yn cynnwys:

Dydd Mawrth, 11 Tachwedd

Seiberdrosedd – Stelcio Digidol ac Aflonyddu (gan gynnwys Trais yn Erbyn Menywod a Merched) – Heddlu De Cymru, 10am–11am, ar-lein

Bydd y cyflwyniad yma'n cyflwyno Seiberdroseddu a'i esblygiad dros y blynyddoedd. Bydd yn tynnu sylw at yr effaith ar Stelcio Digidol ac Aflonyddu ac yn rhoi esboniad o'r hyn y mae modd ei wneud i gynorthwyo yn y frwydr yn erbyn Trais yn Erbyn Menywod a Merched. Mae'r sesiwn yma’n addas ar gyfer gweithwyr proffesiynol, cleientiaid ac aelodau cyffredinol o'r cyhoedd sydd am ddeall heriau stelcio ac aflonyddu a alluogir gan dechnoleg.

I gadw eich lle, defnyddiwch y ddolen yma.

Cyfryngau Cymdeithasol a Chamddefnyddio Sylweddau – Barod a Choices, 10am-12pm, YMa Pontypridd (28 Stryd y Taf, CF37 4TS)

Sesiwn hyfforddi 2 awr i drin a thrafod byd newidiol llwyfannau'r cyfryngau cymdeithasol a'u dylanwad ar gamddefnyddio sylweddau. Bydd y sesiwn yn trafod sut mae cyffuriau'n cael eu sicrhau a'u gwerthu ar-lein, rôl fforymau ac ystafelloedd sgwrsio ar-lein, a sut y mae modd i'r mannau digidol yma gysylltu â gweithgaredd llinellau cyffuriau. Byddwn ni hefyd yn tynnu sylw at strategaethau ymarferol ar gyfer cadw'n ddiogel ar-lein. Ar gyfer Rhieni, Gwarcheidwaid a Gweithwyr Proffesiynol

I gadw eich lle, dilynwch y ddolen yma.

Cydnerthedd Digidol – Sefydliad Lucy Faithfull, 10am-11am, ar-lein

Wrth i dechnoleg a'r rhyngrwyd newid, mae'r risg i blant hefyd yn newid. Bydd yn trin a thrafod sut i gadw plant a phobl ifainc yn ddiogel ar-lein. Magwch eich hyder wrth gyfathrebu am ddiogelwch ar y rhyngrwyd. Dewch i ddall deddfwriaeth, ymddygiad pryderus ar-lein, ac ystyried datblygu cynllun diogelwch digidol. Ar agor i rieni/gwarcheidwaid.

I gadw eich lle, dilynwch y ddolen yma.

Dydd Mercher, 12 Tachwedd

Diogelu Plant Ar-lein – Adferiad, 2pm-4pm, ar-lein

Sesiwn i ymarferwyr a rhieni/gwarcheidwaid ar amddiffyn plant a phobl ifainc ar-lein, a fydd yn ymdrin â'r canlynol:

  • Sut mae plant yn defnyddio technoleg a'r risgiau
  • Gemau/cistiau trysor/pryniannau mewn apiau, ac ati
  • Cyfryngau cymdeithasol a phrynu cyffuriau drwy Apiau
  • Bwlio ar-lein a'r effaith
  • Radicaleiddio ac eithafiaeth ar-lein

I gadw eich lle, dilynwch y ddolen yma.

Dydd Iau, 13 Tachwedd

Niweidio Ar-lein: Cadw Eich Hun ac Eraill yn Ddiogel – Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg, 10am-4pm, Hwb Canol Tref Merthyr Tudful (3 Newmarket Walk, CF47 8EL)

Achlysur cymunedol wyneb yn wyneb yn cael ei gynnal yng nghanol tref Merthyr Tudful i roi gwybodaeth i bobl ar sut i gadw'ch hun ac eraill yn ddiogel ar-lein. Bydd llawer o sefydliadau yn yr achlysur, yn cynrychioli gwahanol wasanaethau. Mae croeso i bawb.

Am wybodaeth am yr achlysur yma, e-bostiwch DiogeluCTM@rctcbc.gov.uk.

Ymwybyddiaeth o Dwyll Ar-lein – BAVO, 10.30am-11.45am, ar-lein

Sesiwn wybodaeth a wedi'i ddarparu gan Tarian, Heddlu De Cymru. Mae croeso i bawb.

I gadw eich lle, dilynwch y ddolen yma.

Ymwybyddiaeth o Gamfanteisio'n Rhywiol ar Blant – Sefydliad Lucy Faithfull, 6pm-7.30pm, ar-lein

Dewch i ddeall sut a pham mae camfanteisio'n rhywiol ar blant yn digwydd. Cyfle i drin a thrafod ffactorau risg, arwyddion a dangosyddion. Dysgwch ble i gael cymorth a sut y mae modd i gamau ataliol cadarnhaol helpu i amddiffyn plant a phobl ifainc rhag wynebu camfanteisio. Yn agored i rieni/gwarcheidwaid.

I gadw eich lle, dilynwch y ddolen yma.

Dydd Gwener, 14 Tachwedd

Cyfryngau Cymdeithasol a Chamddefnyddio Sylweddau – Barod a Choices, 10am-12pm, Cynon Linc, Stryd Seymour, Aberdâr, CF44 7BD

Sesiwn hyfforddi 2 awr i drin a thrafod byd newidiol llwyfannau'r cyfryngau cymdeithasol a'u dylanwad ar gamddefnyddio sylweddau. Bydd y sesiwn yn trafod sut mae cyffuriau'n cael eu sicrhau a'u gwerthu ar-lein, rôl fforymau ac ystafelloedd sgwrsio ar-lein, a sut y mae modd i'r mannau digidol yma gysylltu â gweithgaredd llinellau cyffuriau. Byddwn ni hefyd yn tynnu sylw at strategaethau ymarferol ar gyfer cadw'n ddiogel ar-lein. Yn agored i rieni/gwarcheidwaid.

I gadw eich lle, dilynwch y ddolen yma.

Mae modd dod o hyd i raglen lawn o achlysuron yma.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni