Ar-lein, Mae'n arbed amser
Siôn Corn, eira a goleuadau’r Nadolig
- Categorïau : Press Release
- 20 Hyd 2022

Mae’r cynlluniau i droi goleuadau Nadolig Merthyr Tudful ymlaen ar fin cael eu cwblhau a bydd y digwyddiad yn cynnwys Siôn Corn, tân gwyllt – ac ychydig o eira… beth bynnag yw’r tywydd!
Wedi i’r goleuadau Nadolig gael eu troi ymlaen ger Redhouse Cymru bydd sioe dân gwyllt yn dilyn gydag ymweliad gan Siôn Corn a pheiriant eira fydd rhoi naws Nadoligaidd i’r dathliad.
Ar 19 Tachwedd yn ystod y Diwrnod o Hwyl Nadolig i’r Teulu bydd ffair bleser, glôb eira aer, ceirw, cymeriadau Nadolig, paentio wynebau, a modelu balŵns. Bydd Canolfa Siopa Santes Tudful yn cynnal Groto Siôn Corn.
Bydd y dathliadau'n dechrau’r diwrnod cynt, ar ddydd Gwener 18 Tachwedd, gyda reidiau pleser ar gael rhwng 3pm ac 8pm ac ar 19 Tachwedd rhwng 10am tan 8pm. Ar ddydd Sadwrn bydd y prif weithgareddau'n cychwyn am 11am gan arwain at droi’r goleuadau ymlaen am 4.45pm.
Trefnir Diwrnod o Hwyl i’r Teulu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, gyda chefnogaeth Ardal Wella Busnes Calon Fawr Merthyr Tudful a Chanolfan Siopa Santes Tudful.