Ar-lein, Mae'n arbed amser

Grantiau’r Gronfa Ffyniant Gyffredinol ar gyfer busnesau, clybiau chwaraeon a grwpiau cymunedol yn agor yr wythnos nesaf

  • Categorïau : Press Release
  • 15 Meh 2023
Levelling Up Fund

Yn fuan, mi fydd fodd i fusnesau, mentrau cymdeithasol, grwpiau cymunedol a chlybiau chwaraeon ym Merthyr Tudful wneud cais am arian grant o hyd at £20,000.

Bydd ceisiadau ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin, Llywodraeth y DU yn agor o 9am Ddydd Mercher, 21 Mehefin a bydd y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am 5pm, Ddydd Gwener, 7 Gorffennaf.

Mae chwe cynllun grant lleol sydd yn cynnig rhwng £500 a £20,000: 

  • Grant Cyfalaf Twristiaeth CFfG sydd wedi’i anelu at fusnesau fel darparwyr llety – dim Air BnB – ac atyniadau yn ariannu caffael offer a gwaith cyfalaf ar adeiladau. Mae uchafswm grant o £15,000 ar gael. Bydd angen i fusnesau ddod o hyd i 30% o gyfanswm cost y prosiect.
  • Grant Cyfalaf Economi Cymdeithasol CFfG, ar gyfer busnesau cymdeithasol a grwpiau cymunedol er mwyn caffael offer a gwaith cyfalaf ar adeiladau. Mae uchafswm grant o £20,000 ar gael. Bydd angen i fusnesau ddod o hyd i 20% o gyfanswm cost y prosiect.
  • Grant Cymorth Cyfalaf Trosglwyddo Ased Cymunedol CFfG a fydd yn cynorthwyo Trosglwyddo Ased Cymunedol (TAC) o adeiladau sydd yn cael eu perchen gan y Cyngor i fentrau cymdeithasol er mwyn gwneud gwelliannau i’r adeilad a chaffael cyfalaf. Bydd uchafswm grant, 100% o £5,000 ar gael.
  • Grant Offer Chwaraeon CFfG a fydd yn ariannu caffael offer chwaraeon. Dim ond un clwb neu dîm y gellir ei gynorthwyo ac ni allwn dderbyn ceisiadau gan ystod o grwpiau oed yn yr un clwb. Bydd uchafswm grant, 100% o £500 ar gael.
  • Grant Cyfalaf Sector Preifat CFfG a fydd yn darparu cyllid grant i fusnesau gyda’r bwriad o gynyddu’r niferoedd o swyddi ac ymwelwyr a chefnogi mentergarwch, arallgyfeirio a chyfleoedd ynni gwyrdd. Mae’r grant ar gyfer busnesau sydd wedi’u lleoli ym Merthyr Tudful ac sydd wedi bod yn masnachu am 12 mis neu fwy. Mae uchafswm grant o £5,000 ar gael a bydd angen i ymgeiswyr ddod o hyd i 30% o gyfanswm cost y prosiect.
  • Grant Dechrau Busnes CFfG a fydd yn cynorthwyo mentrau newydd nad sydd yn gallu cyrchu unrhyw ffynonellau ariannu eraill i sefydlu busnes llawn amser am y tro cyntaf. Y bwriad yw cynorthwyo busnesau newydd, cymwys (hyd at 12 mis o fasnachu) i ddatblygu a ffynnu. Mae uchafswm grant o £1,000 ar gael a bydd angen i ymgeiswyr ddod o hyd i 10% o gyfanswm cost y prosiect.

 Am ragor o fanylion, cysylltwch â economic.development@merthyr.gov.uk

 Bydd y ffurflen gais ar gael ar-lein ar wefan y Cyngor o’r wythnos nesaf ymlaen.

  • Mae Cronfa Ffyniant Gyffredinol y DU yn rhan bwysig o agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU ac yn darparu £2.6 biliwn ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn Mawrth 2005. Bwriad y Gronfa yw gwella balchder mewn lleoedd a gwella cyfleoedd bywyd, ledled y DU drwy fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, cynorthwyo busnesau lleol, pobl a sgiliau. Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni