Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cronfa Ffyniant Gyffredin yn buddsoddi £27m ym Merthyr Tudful
- Categorïau : Press Release
- 17 Medi 2024

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) yn darparu cyllid i awdurdodau lleol ar gyfer cymunedau, lleoedd, busnesau, pobl a sgiliau.
Ym Merthyr Tudful mae hyn wedi dod i gyfanswm enfawr o fuddsoddiad o £27m.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Barry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a'r Aelod Cabinet dros Lywodraethu ac Adnoddau:
"Mae'r Gronfa Ffyniant Gyffredin, sydd yn ei hanfod yn disodli'r hyn a arferai fod yn Gyllid Ewropeaidd, yn hanfodol i adfywiad llwyddiannus ein Bwrdeistref Sirol.
"Mae'r gefnogaeth y mae'n ei rhoi i breswylwyr drwy gyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth yn amhrisiadwy. Mae'n dod â chefnogaeth i'n busnesau trwy ffrwd gynhwysfawr o grantiau cymorth busnes i gryfhau ein heconomi leol, ac yn darparu mecanweithiau cymorth ariannol ac adnoddau hanfodol i'r trydydd sector."
Ychwanegodd y Cynghorydd Michelle Symonds, Aelod Cabinet dros Ddiogelu'r Cyhoedd, Tai ac Adfywio: "Bydd y prosiectau sydd wedi elwa o'r cyllid hwn yn cyfrannu at yr economi leol, yn creu ac yn diogelu swyddi lleol ac yn gwella'r ardal leol.
"Ar ôl bod mewn cyfnod lle nad oeddem yn gallu rhannu gwybodaeth am sawl mis gydag etholiad y PCC, yr Etholiad Cyffredinol, ac yn fwyaf diweddar yr is-etholiad lleol, mae'n braf gallu rhannu'r straeon hyn gyda chi o'r diwedd.
"Dros y misoedd nesaf bydd y Cyngor yn rhannu straeon gan y bobl y mae'r gronfa wedi eu helpu, gan arddangos peth o'r gwaith a'r manteision gwych i Ferthyr Tudful.
"Rydyn ni eisiau i chi weld sut mae'r bobl a'r cymunedau lleol wedi elwa o'r dogn hwn o arian, a beth yw'r cynlluniau ar gyfer y dyfodol."