Ar-lein, Mae'n arbed amser
Bachwch y gofod gwaith perffaith yng Nghanolfan yr Orbit
- Categorïau : Press Release
- 09 Tach 2022

Mae busnesau sy’n chwilio am y gofod gwaith perffaith sy’n ateb pob angen yn gallu dod o hyd i’r lleoliad delfrydol ym Merthyr Tudful.
Mae Canolfan Fusnes yr Orbit o eiddo’r Cyngor Bwrdeistref Sirol wedi ei leoli yn ganolog ac yn cynnig adeilad a’r cyfleusterau diweddaraf, cefnogaeth TG, a pharcio am ddim - y pecyn deinamig delfrydol.
Mae gan y ganolfan , a agorwyd yn 2008 gyfanswm o 60,000 troedfedd sgwâr o swyddfeydd, ystafell bwyllgor, ystafelloedd cynadleddau a hyfforddiant gyda thechnoleg cyfarfodydd hybrid a band llydan ffibr cyflym iawn.
Mae ystafelloedd i’w rhentu addas i bob maint busnes rhwng dau a 30, wedi eu dodrefnu gyda desgiau, cadeiriau, system ffon a chefnogaeth weinyddol a TG.
Mae’r denantiaeth yn cynnwys mynediad at wasanaeth argraffu, sganio a llungopïo. Mae teledu gydag adloniant a Newyddion 24, a thimau yn cynnig cefnogaeth busnes, gweinyddu a chegin a chyfleusterau ystafell staff.
Lleolir y ganolfan yng nghanol Merthyr Tudful, drws nesaf i adeilad Llywodraeth Cymru a gyferbyn parc hamdden, ac yn agos iawn i’r A470 ac o fewn pellter cerdded i orsaf drenau.
Ffoniwch 01685 352700 neu e-bostio info@orbitbusinesscentre.co.uk os oes gennych ddiddordeb mewn rhentu’r swyddfa.