Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cerddorfa a Chôr De Cymru yn arloesi yn Neuadd Albert
- Categorïau : Press Release
- 18 Tach 2025
Roedd cyfanswm o 220 o berfformwyr ifanc talentog yn dod o De Cymru, wedi cynrychioli Côr a Cherddorfa Ieuenctid Dw-Dwyrain Cymru, ar lwyfan byd-enwog Neuadd Albert Llundain fel rhan o’r prom mawreddog Music for Youth.
Ymhlith y perfformwyr oedd disgyblion o ysgol y Bendigaid Carlo Acutis ym Merthyr Tudful, oedd wedi ymuno gyda cerddorwyr ifanc o ddeg awdurdod lleol (Caerdydd, Y Fro, Casnewydd, Blaenau Gwent, Sir Fynwy, Torfaen, Caerffili, Rhondda Cynon Taf, a Phenybont-ar-Ogwr) er mwyn cyflwyno noson fywiog a bythgofiadwy o gerddoriaeth ieuenctid.
Nododd Sue Walker, Cyfarwyddwr Addysg: "Mae dathlu ein pobl ifanc yn perfformio yn Neuadd Albert yn atgof pwerus o'r hyn sy'n bosibl pan fyddwn yn buddsoddi mewn creadigrwydd a chydweithio. Mae addysg gerddoriaeth yn agor drysau—nid yn unig i fynegiant artistig, ond i hyder, gwaith tîm, a dysgu gydol oes. Mae'r digwyddiad hwn yn arddangos y dalent anhygoel ledled De Cymru a chryfder ein partneriaethau rhanbarthol wrth ei meithrin.”
Rhoddwyd lle amlwg i bedwar darn o waith, newydd eu comisiynu, gan gynnwys dau gyfansoddiad BBC Ten Pieces oedd wedi arwain at ddiweddglo aruthrol gyda dros 1,200 o berfformwyr. Yn ogystal, taflwyd golau ar ddau gydweithrediad gwreiddiol gyda cantorion-cyfansoddwyr a bandiau trwy fenter ‘Frequencies’ gan Music for youth.
Mae’r perfformiad hwn yn ffurfio rhan o’r ymrwymiad ehanagach o dan y Cynllun Addysg Gerddoriaeth Cenedlaethol, sy’n bwriadu cryfhau partneriaethau rhwng ardaloedd a hyrwyddo mynediad at gerddoriaeth i blant a phobl ifanc. Tu hwnt i’r fraint o berfformio yn y lleoliad eiconig yma, mae’r fenter yn edrych at greu cyfleoedd hir dymor ar gyfer pobl ifanc ledled De Cymru, sydd wedi uno mewn angerdd at gerddoriaeth.
Gwnaeth cynrychiolwyr o ysgol y Bendigaid Carlo Acutis sylw: “Mae’r cyfle anhygoel hwn wedi caniatáu i’n dysgwyr gofleidio heriau newydd, codi i’r achlysur, ac adeiladu cyfeillgarwch gydol oes trwy eu cariad at gerddoriaeth. Rydym yn hynod falch o’u gwaith caled a’r proffesiynoldeb y maent wedi’i ddangos wrth gyrraedd y foment nodedig hon.”
Mae Prom Music for Youth yn ddathliad cenedlaethol o gerddorwyr ifanc ar draws Brydain Fawr, a gynhelir yn yr eiconig Neuadd Albert. Bob nos, mae dros 1,500 o berfformwyr yn dangos amrywiaeth arbennig o glasuron cerddorfa, gwerin, jazz, roc a phop. Uchafbwyntiau’r ŵyl oedd premiere byd-eang darn wedi’i ysbrydoli gan Sarn y Cawr (Giant‘s Causway) gan Aileen Sweeney, rhan o’r prosiect Ten Pieces gan y BBC, ac yn ensemble cyfun sydd yn uno pobl ifanc trwy gerddoriaeth.