Ar-lein, Mae'n arbed amser

Y Parc Sblash yn ailagor ar ol ei ailwampio

  • Categorïau : Press Release
  • 28 Ebr 2022
Splash Pad reopens

Mae’r Parc Sblash ym Mharc Cyfarthfa bellach wedi ailagor yn dilyn gwaith ailwampio sylweddol.

Mae’r ardal chwarae boblogaidd bellach yn cynnwys offer chwarae dŵr newydd, jet dŵr ac wyneb rwber newydd. Mae offer newydd yn yr ystafell reoli hefyd yn golygu bydd y system bwmpio dŵr yn fwy effeithiol.

Arianwyd y project gan y Cyngor Bwrdeistref Sirol I gyd-fynd gyda gwaith ailddatblygu a arianwyd gan Raglen ‘Darganfod Mynediad’ Parc Rhanbarthol y Cymoedd Llywodraeth Cymru, a oedd hefyd yn cynnwys y Ganolfan a thoiledau ac ystafelloedd newid newydd. Mae’r gwaith a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru hefyd wedi darparu gwell mynediad i’r safle trwy greu llwybrau newydd, grisiau a phont droed.

Dwedodd Pennaeth Adfywio a Thai'r Cyngor, Chris Long: “Yn dilyn oedi oherwydd y pandemig ac ar y safle, rydym yn falch o weld y gwaith o adnewyddu'r Parc Sblash wedi ei gwblhau.

“Gwnaed y gwelliannau yn dilyn ymgynghoriad gyda disgyblion Ysgol Gynradd Parc Cyfarthfa am y math o offer roeddent yn ei hoffi orau” ychwanegodd.” Rydym wrth ein bodd gyda'u dewis a bydd y plant sy’n defnyddio'r lle wrth eu bodd hefyd.”

Dwedodd Jane Sellwood Prif Weithredwr Lles@Merthyr:  “Mae wedi bod yn hyfryd gallu croesawu teuluoedd dros gyfnod y Pasg. Bydd y Parc Sblash ar agor yn ddyddiol trwy weddill y gwanwyn a’r haf rhwng 11am a 6pm. Dewch gydag esgidiau glaw pan fydd y tywydd ddim cystal!”

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni