Ar-lein, Mae'n arbed amser
Swydd newydd at 2023!
- Categorïau : Press Release
- 01 Rhag 2022

Mae pobl yn chwilio am swydd newydd yn y flwyddyn newydd yn cael cyfle i gwrdd â chyflogwyr o rai o recriwtiaid mwyaf a mwyaf poblogaidd Merthyr Tudful mewn ffair swyddi ym mis Ionawr.
Bydd y digwyddiad yng Nghanolfan Hamdden Merthyr Tudful ddydd Iau Ionawr 26 yn rhoi cyfle i bobl di waith a rhai mewn gwaith sydd eisiau cyfle i wybod pa swyddi sydd ar gael yn lleol.
Bydd amrywiaeth eang o sectorau yn cael eu cynrychioli yn y ffair, o Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn dangos yr amrywiaeth o swyddi awdurdod lleol, i gwmnïau peirianneg a chynhyrchu gyda swyddi gwag.
Mae’r bore ‘Swydd newydd at Flwyddyn newydd’ yn cael ei drefnu gan Dîm Cyflogadwyedd y Cyngor mewn partneriaeth gyda Chanolfan Waith Plws Merthyr Tudful.
Dwedodd Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Geraint Thomas: “Yn draddodiadol rydym wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau recriwtio, ond bu’n rhaid oedi popeth am bron i dair blynedd oherwydd y pandemig.
“Rydym wrth ein bodd bod y digwyddiadau yn eu hol, ac rydym wedi cynnal dau ddigwyddiad llwyddiannus eisoes mewn digwyddiadau gyda Stagecoach a bwyty The Mine & Castelany’s Fine Dining.
“Y tro hwn, byddwn yn gwneud popeth i sicrhau bod cymaint o’n cyflogwyr a phosib yn cael eu cynrychioli yn y ffair swyddi, a chyflwyno cymaint o gyflogai posib iddyn nhw.”
- Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal rhwng 10am-1pm ym mhrif neuadd y Ganolfan Hamdden, a byddwn yn rhoi digon o wybodaeth i chi dros yr wythnosau nesaf.