Ar-lein, Mae'n arbed amser

GWEITHREDWCH I LANHAU MERTHYR TUDFUL

  • Categorïau : Press Release
  • 12 Maw 2025
Spring Clean Up 25

Mae cymunedau yn Merthyr Tudful yn cael eu hannog i ymuno â Gwanwyn Glân Cymru 2025 a helpu i godi’r sbwriel sy’n bla yn ein hamgylchedd lleol. 

Mae Merthyr Tudful yn gweithio gyda’r elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus i gefnogi Gwanwyn Glân Cymru. Gyda’i gilydd maent yn galw ar unigolion, teuluoedd, grwpiau cymunedol, ysgolion a busnesau i gymryd rhan rhwng 21 Mawrth a 6 Ebrill.

Bydd #TafTaclus yn digwydd ar 21 Mawrth gyda digwyddiadau glanhau yn Ynysowen, Pontypridd a Chaerdydd. Nid priffyrdd i sbwriel ddylai ein hafonydd fod, felly ymunwch â ni i wneud gwahaniaeth!

Nod Gwanwyn Glân Cymru yw codi ymwybyddiaeth ac annog gweithredu cadarnhaol. Mae sbwriel nid yn unig yn costio tua £70 miliwn i gael gwared arno yng Nghymru bob blwyddyn, ond mae hefyd yn cael effaith ddinistriol ar fywyd morol a bywyd gwyllt lleol. Y newyddion da yw bod codi sbwriel yn weithred syml y gall unrhyw un ei wneud i wneud gwahaniaeth uniongyrchol a gweledol i’w hardal.

I wneud addewid a chymryd rhan yn Gwanwyn Glân Cymru, ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus www.keepwalestidy.cymru

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni