Ar-lein, Mae'n arbed amser
Marchnad Dan Do Merthyr Tudful: Wedi Cyrraedd y Rownd Derfynol Genedlaethol yng nghystadleuaeth flynyddol Ffederasiwn Cenedlaethol Masnachwyr Marchnad
- Categorïau : Press Release
- 08 Medi 2023

Bu dau fusnes o Farchnad Dan Do Merthyr Tudful yn masnachu yn rownd derfynol cystadleuaeth Ffederasiwn Cenedlaethol Masnachwyr Marchnad (National Market Traders Federation – NMTF - yn Saesneg) yn Stratford-Upon-Avon y mis diwethaf.
Eleni cymerodd tua 1,000 o fasnachwyr ifanc ran yn y gystadleuaeth ac ym mis Ebrill 2023, Merthyr Tudful oedd y dref gyntaf erioed yn ne Cymru i gynnal y digwyddiad yn lleol. Drwy ragbrofion lleol a rhanbarthol torrwyd y masnachwyr ifanc lawr i 92 o oreuon y maes a rhoddwyd yr anrhydedd iddynt o arddangos eu sgiliau yn Stratford-Upon-Avon Waterside ar y 24ain a’r 25ain o Awst.
Dyma oedd y gystadleuaeth gyntaf i Taylor’s Tiny Tots a Scentury Scents ill dau gymryd rhan ynddi ac er nad enillon nhw’r gystadleuaeth yn y rownd derfynol, cawsant benwythnos penigamp ac ennyn cysylltiadau newydd a chael llawer o brofiadau yn ystod y digwyddiad prysur hwn a drefnwyd gan yr NMFT yn arbennig er mwyn annog pobl ifanc i fasnachu mewn marchnadoedd.
Dim ond wythnos oedd gan Charlotte o Taylor’s Tiny Tots i baratoi oherwydd fe’i dewiswyd hi fel un o ymgeiswyr munud olaf yr NMFT a dwedodd am y digwyddiad: “Ges i gymaint o amser gwych dros y ddau ddiwrnod yn cyfarfod cwsmeriaid a masnachwyr newydd. Diolch i bawb am eu cefnogaeth.”
Meddai Scentury Scents: “Gwerthom lawr o nwyddau yn ogystal â chael cyfle i arddangos ein cynnyrch i bawb yn Stratford-Upon-Avon. Roedd yn gyfle gwych i rwydweithio.”
Meddai’r Cynghorydd Michelle Symonds, yr Aelod Cabinet ar gyfer Adfywio: “Llongyfarchiadau a diolch i’n masnachwyr David White a Gareth Davies o Scentury Scents ac i Charlotte Taylor o Taylor’s Tiny Tots am gymryd rhan ac am eu cynrychiolaeth broffesiynol o Ferthyr Tudful drwy gydol y gystadleuaeth.
“Diolch arbennig hefyd i’r NMTF ac i bawb a gymerodd rhan yn nhrefniadau’r gystadleuaeth.”