Ar-lein, Mae'n arbed amser

Parc Sgrialu o'r Radd Flaenaf yn Agor ym Merthyr Tudful

  • Categorïau : Press Release
  • 16 Gor 2025
517073308_1042119351383606_4784029677831809795_n

Parc Sgrialu o'r Radd Flaenaf yn Agor ym Merthyr Tudful

Rydym wrth ein boddau i gyhoeddi bod y parc sgrialu’n agor yn gynt na’r disgwyl – ac mewn da bryd i’r gwyliau haf!

Yn dilyn cyfarfod ar y safle gyda chontractwyr heddiw, mae’r parc sgrialu - a ariannwyd gan gronfa Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful – nawr ar agor ac ar gael i’w ddefnyddio gan y cyhoedd.

Bydd ymwelwyr yn sylwi bod ffensys yn dal i amgylchyni rhai mannau o’r safle. Yn y pendraw bydd y mannau hyn wedi eu gorchuddio â gwair ac rydym yn gofyn yn garedig i’r cyhoedd gadw draw o’r ardaloedd hyn er mwyn eu diogelwch nhw eu hunain ac er mwyn rhoi cyfle i’r gwair dyfu. Mae rhagor o waith i’w gwblhau ar y safle, yn cynnwys y gwaith o oleuo’r parc, rhywbeth fydd yn caniatáu i ymwelwyr ddefnyddio’r parc drwy gydol y flwyddyn.

Ymgynghorwyd gyda’r sawl fyddai’n defnyddio’r parc er mwyn dylunio’r safle, ac rydym wrth ein boddau i fod wedi derbyn gymaint o ymateb ffantastig gan y gymuned sgrialu leol. Fel rhan o’r cyfleuster newydd, bydd ymwelwyr i’r parc hefyd yn gweld murlun anhygoel newydd er cof am ‘Nippa’ aelod annwyl o gymuned Sgrialu Merthyr. 

I’r sawl sy’n newydd i sgrialu, chwiliwch am wybodaeth maes o law ynghylch gwersi i ddechreuwyr yn ystod y gwyliau haf. Am ragor o wybodaeth dilynwch Heini Merthyr Tudful | Active Merthyr Tudful.

Meddai’r Cynghorydd Jamie Scriven, yr Aelod Cabinet ar gyfer yr Economi, Adfywio, Hamdden a Thwristiaeth; “Mae’n bleser mawr i mi gyhoeddi bod y parc sgrialu newydd sbon yn agor mewn pryd i’r gwyliau haf! Fel un o’r bobl ifainc fu’n rhan o ddatblygiad y parc sgrialu gwreiddiol, rwy’n falch i allu gweld, bron i bymtheg mlynedd yn ddiweddarach, fuddsoddiad fydd yn dod â chyfleuster sgrialu modern sy’n parchu atgof y gwreiddiol.

“Ni fyddai’r parc sgrialu newydd wedi bod yn bosib heb Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, na chwaith heb ymrwymiad, gwaith a chefnogaeth ein staff yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful sydd wedi sicrhau bod gan ein pobl ifainc y cyfleoedd hamdden gwych hyn.

“Rydym wedi derbyn adborth gwych gan ddefnyddwyr y parc ac mae’n ffantastig fod gennym gyfleuster gall cynifer ei fwynhau’r, sgrialwyr profiadol a newydd ill dau, gyda rhai sesiynau penodol wedi eu trefnu’n ofalus yn ystod y misoedd nesaf. Cadwch lygad barcud ar dudalennau ein cyfryngau cymdeithasol am ragor o wybodaeth.

“Edrychwn ymlaen at weld y parc yn cael defnydd da dros y gwyliau a thu hwnt. Byddwch yn ddiogel a joiwch!”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni