Ar-lein, Mae'n arbed amser

Datganiad gan y Cynghorydd Geraint Thomas, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ynghylch Canolfan Gymunedol Aber-fan ac Ynysowen

  • Categorïau : Press Release
  • 08 Maw 2024
Aberfan CC

“Rwyf wedi fy arswydo fod rhywun wedi bod yn gosod arwyddion a lledu suon maleisus ynghyIch y cau gan greu cymaint o bryder i staff a chymuned Aber-fan. Bydd Lles Merthyr Tudful yn archwilio i’r mater.   

“Mae’n anffodus fod pobl yn cyfeirio’r mater hwn at y Cyngor gan fod Swyddogion y Cyngor ar y cyd â Lles Merthyr yn gweithio mewn modd cadarnhaol a chynhyrchiol i sicrhau ein bod yn cynnal gwasanaethau ymhob canolfan. 

“O ran eglurder, NID YW’R darparwr hamdden sydd wedi bod yn llwyddiannus yn ei gais i weithredu gwasanaethau hamdden ym Merthyr Tudful yn gwmni preifat ond yn elusen ac yn sefydliad ‘dim er elw’ sydd â chyfoeth o brofiad a dealltwriaeth yn y diwydiant. 

“Rydym yn sefyll ar y cyd â staff a chymuned Aber-fan.”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni