Ar-lein, Mae'n arbed amser
Datganiad gan Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Geraint Thomas
- Categorïau : Press Release
- 16 Mai 2024

Mae’r newyddion am gau safle Hoover ym Merthyr Tudful yn nodi diwedd cyfnod i’n tref.
Mae’r cwmni wedi cyflogi miloedd o’n preswylwyr dros y blynyddoedd gan ddod a diwydiant yr oedd mawr ei angen yn dilyn yr Ail Ryfel Byd.
Rydym yn deall bod gan y staff gyfle i adleoli i leoliad arall yn Rugby, byddwn yn gweithio i gefnogi y rhai sy’n dewis aros ym Merthyr Tudful mewn amryw o gynlluniau hyfforddiant a chyflogaeth.