Ar-lein, Mae'n arbed amser

Datganiad gan y Cynghorydd Brent Carter, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

  • Categorïau : Press Release
  • 03 Chw 2026
Merthyr master

Rwyf yn ymwybodol o sgyrsiau ar led ar y we parthed darpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol ym Merthyr Tudful, felly hoffwn roi eglurhad o safbwynt y Cyngor.

Anfonwyd llythyr at ysgolion ar yr 28ain o Ionawr 2026 gan y Cyfarwyddwr Addysg, ac rydym yn ymwybodol bod goslef ac amseriad y llythyr wedi achosi gofid ymysg teuluoedd. Bwriad y llythyr gwreiddiol oedd gofyn i deuluoedd ac ysgolion gydweithio, ac amlinellu sut i fynd i’r afael â phryderon a chwestiynau.

Hoffwn roi sicrwydd i’n trigolion ein bod ni’n gwrando. Mae eich barn yn hynod o bwysig i ni, felly erbyn hyn mae arolygiad ehangach o gwynion sy’n ymwneud â diogelu ac Anghenion Dysgu Ychwanegol wedi dwysáu’n fater i’r tîm uwch reoli. Rydym yn cydnabod bod yr adolygiadau y cyfeiriwyd atynt gan amryfal deuluoedd yn cyfiawnhau archwiliad dyfnach o’n systemau cyfredol a’u heffeithiolrwydd.

Rydym yn gwerthfawrogi’r adborth gan ein cymuned ac rydym yn parhau’n ymroddedig i wella’r ffordd rydym yn gwasanaethu plant a theuluoedd Merthyr Tudful.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni