Ar-lein, Mae'n arbed amser

DATGANIAD gan Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd: ‘Mae cyllid Caerdydd Canolog yn hanfodol i Dde-ddwyrain Cymru.’

  • Categorïau : Press Release
  • 22 Gor 2019
Cardiff Capita Logo

Cyhoeddwyd heddiw (dydd Llun, yr 22ain o Orffennaf) fod Gorsaf Drenau Caerdydd Canolog am dderbyn £58 miliwn mewn cyllid gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig fel rhan o gynlluniau i ailwampio gorsaf brysuraf Cymru.

Daw’r cyhoeddiad hwn ar ôl yr addewid o £40 miliwn ym mis Ionawr 2018 gan Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i dalu am ailddatblygu prif ganolfan drafnidiaeth Caerdydd.  

Wrth groesawu’r newyddion am y cyllid, dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan, Cadeirydd Cabinet Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf: “Rydym yn falch bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo £58 miliwn i ganiatáu gwelliannau gwir eu hangen yng Ngorsaf Drenau Caerdydd Canolog. 

“Dim ond 18 mis yn ôl, fe gymeradwyodd Cabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd mewn egwyddor £40 miliwn o gyllid y Fargen Ddinesig i gynorthwyo i ddatblygu canolfan drafnidiaeth ar gyfer y rhanbarth, ac felly mae clywed y caiff yna ragor o gyllid ei ddyrannu ar gyfer ein rhanbarth yn galonogol iawn.

 “Bydd unrhyw welliannau i ddarn mor hanfodol o seilwaith yn gwneud llawer i sicrhau y bydd nid yn unig Caerdydd ond hefyd y bwrdeistrefi sirol sy’n gwneud y rhanbarth yr hyn yr ydyw heddiw yn medi buddion gwell cysylltiadau trafnidiaeth.

“Bydd y prosiect hwn yn hanfodol i sicrhau bod Metro De Cymru yn dod â budd llawn  i’r rheiny sy’n byw yn Ne-ddwyrain Cymru a’i Chymoedd, gan ganiatáu dyblu amledd trenau ar leiniau’r Cymoedd.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Huw David, Cadeirydd Awdurdod Trafnidiaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr: “Mae’r £58 miliwn a addawyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig heddiw yn hanfodol i sicrhau bod ein rhanbarth yn gallu cyd-fynd â’r twf y disgwylir y bydd yn ei weld dros y blynyddoedd i ddod.

“Ers gormod o amser, mae cymunedau o amgylch y brifddinas wedi ymlafnio â system drafnidiaeth sy’n heneiddio, a gorsaf reilffordd nad yw’n addas i ateb dibenion y miloedd o gymudwyr dyddiol a welir ganddi. 

“Ynghyd â’r £40 miliwn o gyllid y Fargen Ddinesig a neilltuir, rydym yn hyderus y bydd De-ddwyrain Cymru yn awr yn gallu cystadlu fel canolfan fusnes ryngwladol, gan greu swyddi ar gyfer yr holl ranbarth a hyrwyddo twf economaidd.”

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni