Ar-lein, Mae'n arbed amser

Datganiad ar sefyllfa bresennol y Cyngor ar Ffos-Y-Fran

  • Categorïau : Press Release
  • 31 Mai 2023
default.jpg

Datganiad ar sefyllfa bresennol y Cyngor ar Ffos-Y-Fran:

Gorfodi

Ddydd Mercher Mai’r 24ain 2023, yn dilyn cyngor cyfreithiol annibynnol, cyhoeddwyd Gorchymyn Gorfodaeth ar Merthyr (De Cymru) Cyf a phobl eraill sydd a diddordeb yn y tir yn Ffos-Y-Fran. Mae’r hysbysiad yn gofyn am y canlynol:

(i)      Atal tynnu glo o’r tir.

(ii)     Atal gwaith datblygu ar y tir o dan amodau’r caniatad cynllunio a dderbyniawy ar Fai 6 2011, ond am waith adfer a gymeradwywyd.

Bydd yr hysbysiad yn dod i rym ar Fehefin 27ain 2023 ( mae angen cyfnod statudol o 28 diwrnod) oni bai bod apel yn cael ei gyflwyno i’r Arolygydd Cynllunio cyn y dyddiad hwn.

Unwaith y daw’r hysbysiad i rym, mae gan y datblygwr 28 diwrnod i gydymffurfio. Bydd methu gwneud hyn yn gallu arwain at gynnydd pellach yn y camau gorfodi.

Adfer

Mae’r Cyngor mewn trafodaethau cynnar gyda’r datblygwr i ystyried strategaeth adfer wedi ei diweddaru.

Digwyddiad motocross

Tynnwyd ein sylw yn ddiweddar at y ffaith bod digwyddiad Motocross i’w gynnal ar safle Ffos-Y-Fran y penwythnos hwn (3 a 4 Mehefin).

Mae defnydd dros dro o’r tir ar gyfer rasio cerbydau yn dod o fewn ‘Datblygiad a Ganiateir’ (sy’n golygu nad oes angen caniatâd cynllunio) am gyfnod o hyd at 14 diwrnod y flwyddyn galendr.

Er nad oes gan y Cyngor unrhyw reolaeth dros y digwyddiad oherwydd ei fod yn cael ei gynnal ar dir preifat, rydym yn cysylltu â’r trefnwyr i edrych arno o safbwynt y gwasanaethau brys ac rydym yn cysylltu â’r Heddlu, y Gwasanaethau Ambiwlans a Thân i sicrhau ymateb aml-asiantaeth. .

Mae'r trefnwyr yn disgwyl 280 o reidwyr a dros 500 o wylwyr. Mae mesurau traffig yn cael eu rhoi ar waith i osgoi unrhyw draffig o gwmpas y safle.

Mae rhagor o wybodaeth am y digwyddiad ar gael yma:

https://mxnationals.co.uk/

https://www.dirthub.co.uk/event-page/?event_id1=63193

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni