Ar-lein, Mae'n arbed amser

8 0'R BWYDYDD GORAU SY'N CAEL EU GWASTRAFFU GARTREF

  • Categorïau : Press Release
  • 27 Ion 2025
Food Waste 8

Mae’r teulu cyffredin yn gwastraffu tua 8 pryd bwyd yn ystod wythnos arferol. Gallai hyn olygu bod teuluoedd yn gwastraffu tua £50 y mis ar brynu bwyd a ddim yn ei fwyta.

Y deg eitem fwyd orau sy’n cael eu gwastraffu yn y DU yw bara, ffrwythau a llysiau, llaeth, reis a phasta, wyau, caws, tatws a pherlysiau

Arbedwch arian a’r blaned wrth ddilyn y cynghorion hyn i arbed gwastraffu bwyd

  • Er mwyn arbed gwastraff bwyd beth am wirio yr hyn sydd gennych a gwneud rhestr cyn mynd i siopa.
  • Gwiriwch y dyddiadau daw i ben pan yn prynu bwyd.
  • Gwiriwch bod tymheredd yr oergell yn gywir
  • Gwnewch yn siwr eich bod yn storio bwyd yn gywir er mwyn iddo bara yn hirach
  • Storiwch fwyd nad ydych wedi ei fwyta a’u cad war gyfer pryd arall.

Edrychwch ar wefan www.Lovefoodhatewaste.com am gynghorion ar sut i leihau gwastraff bwyd, storio bwyd yn gywir a ryseitiau ar gyfer bwyd sydd dros ben.

Beth am roi bwyd rydych yn gwybod na fyddwch yn ei ddefnyddio i fanc bwyd lleol

Mae gwastraff bwyd yn dal i gyfrif am tua 30% mewn rhai biniau sbwriel, ymunwch â'ch cymdogion a dechrau ailgylchu eich gwastraff bwyd a byddwn yn ei droi'n bŵer.

Gallwch ailgylchu pob bwyd sydd wedi ei goginio a heb ei goginio yn y bin gwastraff bwyd a gesglir yn wythnosol. Tynnwch yr holl ddeunydd pacio cyn rhoi bwyd yn y bin ailgylchu bwyd

Sicrhewch fod y ddolen yn cael ei chadw yn y safle unionsyth i gloi'r bin gwastraff bwyd a stopio anifeiliaid rhag stwyrian.

Archebwch bin ailgylchu bwyd heddiw! How to order recycling, food, and garden waste containers | Merthyr Tydfil County Borough Council neu ffoniwch ni ar 01685 725000

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni