Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cryfhau darllen ar draws Clwstwr Pen y Dre
- Categorïau : Press Release
- 31 Maw 2026
Gyda chefnogaeth Consortiwm Canolbarth y De (CCyD), dechreuodd clwstwr Pen y Dre ar daith i gryfhau darllen. Cytunodd y Penaethiaid flaenoriaethu datblygu dealltwriaeth a rennir o 'wyddoniaeth darllen'.
Er mwyn cefnogi’r daith ddysgu broffesiynol, dewisodd y clwstwr ‘The Art and Science of Teaching Primary Reading’ gan Christopher Such, yn ogystal â Model sefydledig ‘Reading Pope,’ Dr Hollis Scarborough.
Dyluniodd CCyD gyfres o sesiynau Clwb Llyfrau ar-lein a ddaeth ag arweinwyr llythrennedd, penaethiaid a chydweithwyr awdurdodau lleol at ei gilydd. Roedd y sesiynau yn darparu lle gwerthfawr ar gyfer trafodaeth a myfyrio cyfoethog a gonest.
Dywedodd Darren Thomas, Pennaeth Ysgol Gynradd Pantyscallog; "Mae bod yn rhan o'r clwb llyfrau hwn wedi bod yn amhrisiadwy i'n staff. Mae wedi dyfnhau eu dealltwriaeth o sut mae plant yn dysgu darllen ac wedi cefnogi datblygiad addysgu cyson, o ansawdd uchel ar draws yr ysgol.Rydym eisoes yn gweld y manteision yn hyder y staff yn ogystal â chanlyniadau disgyblion."
Mae'r ymgysylltu wedi cael effaith gadarnhaol ar staff, gan helpu i gryfhau gwybodaeth ac ymarfer sydd eisoes yn dechrau cael effaith gadarnhaol ar ddarllen ar draws yr ysgolion.
Llongyfarchiadau i Ysgol Gynradd Dowlais, Ysgol Gynradd Gellifaelog, Ysgol Gynradd Goetre, Ysgol Gynradd Gwaunfarren, Ysgol Gynradd Pantyscallog ac Ysgol Gynradd Ysgol y Graig am eu hymrwymiad i gryfhau darllen.