Ar-lein, Mae'n arbed amser

Myfyrwyr ledled Merthyr Tudful yn dathlu Diwrnod Canlyniadau TGAU!

  • Categorïau : Press Release
  • 20 Awst 2026
DSC08986

Heddiw rydym yn dychwelyd i'n hysgolion uwchradd, ledled Merthyr Tudful, lle mae nerfau a chyffro yn y coridorau gan y myfyrwyr sy'n dathlu eu canlyniadau TGAU ac yn penderfynu ar eu camau nesaf.  

Dywedodd y Cynghorydd Brent Carter, Arweinydd y Cyngor: "Roedd yn wych treulio amser mewn ysgolion y bore yma a phrofi'r cyffro a'r disgwyliad gyda’r myfyrwyr a'u teuluoedd. Pob lwc i bawb wrth i chi gychwyn ar gam nesaf eich taith, ble bynnag y bydd yn arwain."

P'un a ydyn nhw'n symud ymlaen i'r coleg, prentisiaeth, hyfforddiant neu gyflogaeth, dyma ddechrau pennod Newydd, gyffrous. Mae'r awyrgylch yn yr ysgolion wedi bod yn galonogol gydag athrawon, ffrindiau a theuluoedd i gyd yn dathlu'r garreg filltir wych hon ac yn cefnogi'r rhai nad ydynt efallai wedi cyflawni'r graddau a ddisgwyliwyd.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Lewis, Aelod Cabinet dros Addysg, Diwylliant a'r Gymraeg: "Wrth i chi edrych ymlaen, cofiwch fod pob taith yn wahanol. Pa bynnag lwybr rydych chi'n ei ddewis, parhewch i weithio'n galed, cadwch feddwl agored a pheidiwch byth â rhoi'r gorau i gredu yn yr hyn y gallwch ei gyflawni."

Ychwanegodd Ryan Morgan, Cyfarwyddwr Addysg: "Rwy'n hynod falch o'r hyn y mae'r myfyrwyr wedi'u cyflawni. Ar draws Merthyr Tudful, mae gennym bobl ifanc dalentog, gwydn ac uchelgeisiol ac mae heddiw yn gyfle i ddathlu hynny."

Ymunwch â ni ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol wrth i ni barhau i dynnu sylw at gyflawniadau myfyrwyr, ledled y fwrdeistref sirol.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni