Ar-lein, Mae'n arbed amser
Llwyddiant ysgubol i Ferthyr Tudful yng Ngwobrau Cymunedol Ieuenctid yr Uchel Siryf!
- Categorïau : Press Release
- 13 Mai 2025

Ym mis Ebrill, enillodd Clwb Bechgyn a Merched Treharris (CBMT), Ysgol Greenfield a Chabinet Ieuenctid Merthyr Tudful wobrau yng ngwobrau Cymuned Ieuenctid Uchel Siryf Morgannwg Ganol 2025.
Dathlodd CBMT noson anhygoel o gydnabyddiaeth a chyflawniad ar ôl sicrhau dwy anrhydedd yn y gwobrau.
Dyfarnwyd ail wobr i Raglen Treftadaeth Canmlwyddiant y clwb yn y categori grŵp, cydnabyddiaeth fawreddog o'r fenter dreftadaeth dan arweiniad ieuenctid a oedd yn nodi pen-blwydd Clwb Bechgyn a Merched Treharris yn 100 oed. Daeth y prosiect i ben drwy greu amgueddfa gymunedol barhaol, wedi'i churadu gan gyfranogiad dros 125 o bobl ifanc lleol ac sy'n cynnwys hanesion llafar, murluniau, henebion replica a deunyddiau archifol.
Parhaodd y dathliadau gyda Calum Davies, 16 oed, yn cipio'r brif wobr yn y categori unigol. Cafodd Calum, aelod hirsefydlog o'r clwb, ei gydnabod am ei dwf personol ysbrydoledig, ei arweinyddiaeth a'i gyfraniadau cymunedol. Gan oresgyn heriau personol sylweddol, mae Calum yn awr yn fentor i aelodau iau, wedi arwain ymgyrchoedd ymddygiad cadarnhaol a hyd yn oed sicrhau cyllid i gefnogi Caffi Cymunedol y clwb sydd yn gweini dros 70 o brydau poeth yr wythnos i bobl leol.
Dywedodd Noah Shepherd, Swyddog Ieuenctid a Chymuned: "Rydym yn anhygoel o falch o'n pobl ifanc. Dangosodd y rhaglen dreftadaeth pa mor angerddol a galluog ydyn nhw, ac mae taith Calum yn dyst i wydnwch, cyfrifoldeb a phŵer gwaith ieuenctid. Nid buddugoliaethau i'r clwb yn unig yw'r gwobrau hyn - maen nhw'n fuddugoliaethau i'r gymuned gyfan."
Enillodd disgyblion Ysgol Greenfield; Amelia Bates, Kian Rupert a Katie Balsom-Evans y wobr gyntaf yn y categori grŵp am eu prosiect cyffrous o'r enw "Helpu Eraill". Nod cyffredinol eu prosiect "Bwydo'r Digartref" yw darparu prydau iach, maethlon i unigolion sy'n profi digartrefedd yn y gymuned leol. Mae'r holl gynnyrch ar gyfer y prydau hyn yn cael eu hariannu gan ginio staff ar ddydd Gwener, sy'n cael ei baratoi gan y disgyblion yn Ysgol Greenfield.
Mae'r fenter hon yn annog myfyrwyr i ddatblygu sgiliau coginio wrth godi ymwybyddiaeth am ddigartrefedd ac ansicrwydd bwyd. Mae hefyd yn hyrwyddo ymdeimlad o empathi, cyfrifoldeb cymunedol a gwaith tîm, wrth i gymuned yr ysgol ddod at ei gilydd i gael effaith ystyrlon ar y rhai sydd mewn angen.
Roedd Cabinet Ieuenctid Merthyr Tudful yn falch iawn o dderbyn ail wobr ar y cyd â Chlwb Bechgyn a Merched Treharris, yn dilyn lansiad llwyddiannus y rhaglen ddogfen "Lockdown Through Our Eyes" / “Y Cyfnof Clo Trwy’n Llygaid.”
Roedd y rhaglen ddogfen yn cynnwys safbwyntiau unigryw pobl ifanc ym Merthyr Tudful wrth i ni fyfyrio ar bum mlynedd ers y cyfnod clo Covid-19 cyntaf. Trwy straeon personol a ffilmiau, archwiliodd y cabinet ieuenctid yr effaith a gafodd yr amseroedd digynsail hyn ar eu bywydau, eu haddysg a'u lles meddyliol. Mae'r rhaglen ddogfen yn tynnu sylw at yr unigrwydd a deimlwyd wrth i ryngweithiadau cymdeithasol symud i lwyfannau digidol, y gwytnwch a ddatblygwyd yn wyneb ansicrwydd a'r creadigrwydd a sbardunwyd wrth addasu ir "normal newydd". Mae hefyd yn taflu goleuni ar y profiad cyfunol o lywio byd rhyfedd, anhysbys gan gynnig mewnwelediadau i sut mae'r heriau hyn wedi siapio cenhedlaeth.
Daeth y prosiect hwn yn arwydd o rymuso, gan ysbrydoli aelodau o'r Cabinet Ieuenctid i gymryd rhan yn y broses greadigol wrth oresgyn heriau personol yng nghanol argyfwng byd-eang. Trwy ymdrechion pawb a gyfranogodd, crëwyd dogfen hanesyddol werthfawr a fydd yn gwasanaethu fel offeryn addysgol i genedlaethau'r dyfodol ac yn atgof o'r cryfder a geir mewn cymuned a dyfalbarhad.