Ar-lein, Mae'n arbed amser
Digwyddiad Chwaraeon cynhwysol llwyddiannus yng Nghanolfan Hamdden Merthyr Tudful
- Categorïau : Press Release
- 16 Chw 2024

Heddiw, cynhaliodd Canolfan Hamdden Merthyr Tudful ddigwyddiad chwaraeon am ddim, gyda'r nod penodol o hyrwyddo chwaraeon anabledd a chyfleoedd cynhwysol ar draws Merthyr Tudful.
Trefnwyd y digwyddiad gan Heini Merthyr Tudful, Adran Datblygu Chwaraeon CBSMT, gyda chefnogaeth Chwaraeon Anabledd Cymru fel rhan o'u 'cyfres Insport', rhaglen ddigwyddiadau sy'n ceisio cefnogi pobl anabl ledled Cymru i gael mynediad at gyfleoedd cynhwysol.
Mae'r digwyddiad hefyd yn cael ei gefnogi gan Gronfa Chwaraeon Anabledd Jonathan Williams. Sefydlwyd y gronfa hon er cof am Jon, a fu’n wirfoddolwr gydag Heini Merthyr Tudful a Chwaraeon Anabledd Merthyr am dros 12 mlynedd. Sefydlwyd y gronfa yn ei enw i gefnogi pobl anabl ym Merthyr i fanteisio ar gyfleoedd chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
Gellir rhoi rhoddion i’r gronfa yma:- https://jonathanwilliams.muchloved.com/
Darparwyd y gweithgareddau gan glybiau a grwpiau lleol Merthyr Tudful yn ogystal â Chwaraeon Anabledd Merthyr, fforwm lleol sy'n cefnogi datblygiad darpariaeth gynhwysol yn y fwrdeistref.
Roedd deg camp wahanol ar gael, yn amrywio o Martial Arts i Seiclo ac roedd cyfranogwyr a'u teuluoedd yn gallu rhoi cynnig arnynt a darganfod sut y gallant fanteisio ar y cyfleoedd hyn yn y gymuned.
Dywedodd Dan Buftton, Rheolwr Datblygu Chwaraeon, "Rydym yn gweithio'n agos gyda'n clybiau cymunedol ac mae'n wych gweld y cyfleoedd cynhwysol y maent yn eu cynnig. Rydym yn derbyn atgyfeiriadau pobl anabl gan ystod o bartneriaid ac yna gallwn eu cyfeirio a'u cefnogi i ddarpariaethau cynhwysol lleol fel y rhain, gyda'r hyder y byddant yn cael profiad cadarnhaol."
Defnyddiwyd y digwyddiad i godi ymwybyddiaeth o'r ffaith bod cyfleoedd cynhwysol ar gael ar draws Merthyr Tudful, yn ogystal â hyrwyddo sut y gall preswylwyr ddod o hyd i wybodaeth a chefnogaeth i gael mynediad atynt.
Ychwanegodd y Cynghorydd Geraint Thomas, Arweinydd CBSMT, "Yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful rydym yn angerddol am chwaraeon a'r effaith gadarnhaol y mae'n ei chael ar ein cymuned. Rydym am sicrhau bod chwaraeon ar gyfer pawb ac mae digwyddiadau fel hyn yn fan cychwyn i sicrhau bod pobl yn gallu darganfod beth sydd ar gael ac yn bwysicach na hynny sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i fod yn egnïol yn rheolaidd.
"Mae wedi bod yn wych cynnal y digwyddiad hwn a diolch yn fawr iawn i'n clybiau cymunedol lleol am wirfoddoli eu hamser heddiw."
Os hoffech gael gwybod mwy am gyfleoedd cynhwysol ym Merthyr Tudful, cysylltwch â Active.MerthyrTydfil@merthyr.gov.uk