Ar-lein, Mae'n arbed amser

Mae Merthyr Tudful yn cynnal Diwrnod Chwarae Cenedlaethol

  • Categorïau : Press Release , Council
  • 03 Awst 2022
4 (1)

Cynhaliwyd nifer o weithgareddau ym  Merthyr Tudful heddiw i ddathlu diwrnod chwarae cenedlaethol fel rhan or 'haf o hwyl'. 

Y thema eleni yw 'popeth i chwarae' - gan adeiladu ar gyfleoedd chwarae i blant sy’n pwysleisio bod chwarae i bawb. Mae’r gweithgareddau heddiw wedi eu cyllido gan Fenter 'Haf o Hwyl' Llywodraeth Cymru sy’n dathlu’r diwrnod arbennig hwn.

Mae Sefydliadau wedi trefnu cerddoriaeth, celf, dawnsio, gweithgareddau corfforol, chwaraeon a gweithgareddau pwll nofio ar hyd a lled Merthyr Tudful er mwyn dathlu’r diwrnod. Mae 'Haf o Hwyl' wedi bod yn digwydd ers mis Gorffennaf ac mae plant a phobl ifanc rhwng 0 a 25 wedi bod yn mwynhau gwyliau’r haf trwy weithgareddau creadigol, gan ei helpu i fwynhau'r haf trwy fod yn heini ac iachus.

Mynychodd y Maer Declan Salmon ddau weithgaredd y bore 'ma yng Ngellideg a Theatr Soar a dwedodd, "Fel rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru I 'Haf o Hwyl' mae nhw wedi darparu dros £100,000 I gyllido gweithgareddau rhwng mis Gorffennaf a mis Medi, ac rydym yn gwerthfawrogi y cyllid. Mae’r gweithgareddau hyn mor bwysig i bobl ifanc a phlant Merthyr Tudful yn enwedig ar ôl yr heriau dros y ddwy flynedd ddiwethaf gyda’r pandemig. Maent yn cefnogi ein pobl ifanc a phlant yn gymdeithasol, yn emosiynol ac yn gorfforol ac yn rhoi iddynt haf i’w gofio.”

Mae dal amser i archebu lle ar gyfer Haf o Hwyl, felly dilynwch y ddolen hon: https://www.merthyr.gov.uk/resident/summer-of-fun/?lang=cy-GB&

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni