Ar-lein, Mae'n arbed amser

Gwna dy arferion bwyd gwanwyn yn nerthol: Arbed arian, gwastraffu llai a phweru Cymru tua Rhif 1

  • Categorïau : Press Release
  • 02 Maw 2026
Top Banana

Y gwanwyn yw'r amser ar gyfer llechen lân – ac mae hynny'n dechrau gyda bwyd. Dyna pam mae Merthyr Tudful CBS yn gweithio mewn partneriaeth â Cymru yn Ailgylchu i helpu aelwydydd i roi hwb i'w prydau bwyd y gwanwyn hwn. Gydag ambell newid syml, galli arbed amser, lleihau’r bil bwyd a helpu Cymru symud o 2il i 1af yn y byd am ailgylchu.

Rydyn ni mor agos! I gyrraedd y brig, dim ond 5% yn fwy o wastraff bwyd y mae angen i Gymru ei ailgylchu – mae hynny'n cyfateb i bob un ohonom ni’n ailgylchu dim ond un croen banana ychwanegol yr wythnos. Gweithred fach. Effaith fawr.

Cost taflu bwyd da i'r bin

Bwyd yw chwarter cynnwys y bin sbwriel cyfartalog yng Nghymru o hyd, a gellid bod wedi bwyta’r rhan fwyaf ohono. I aelwyd o bedwar, mae hynny’n golygu taflu tua £84 y mis.

Yn aml mae'n fwyd da a maethlon hefyd – ffrwythau, llysiau, tatws, ffrwythau a chig fel cyw iâr – yr union fwydydd sy'n ein helpu i gadw'n iach.

 Gyda bron i 80% ohonom ni’n poeni am gost bwyd a 55% ohonom ni’n dweud fod  bwyta'n dda o bwys i ni, dydy taflu bwyd da i’r bin ddim yn gwneud synnwyr o gwbl.

 

Coginio’n fwy craff: Paratoi. Addasu. Ailgylchu.

 Y gwanwyn hwn, mae'r cyfan yn ymwneud â choginio'n graff trwy wneud i fwyd fynd ymhellach, ac mae gan Cymru yn Ailgylchu fformiwla syml ar gyfer bywydau prysur.

Paratoi – Gwna ychydig o amser i goginio pryd sylfaenol syml, nerthol gyda'r hyn sydd gen ti eisoes yn yr oergell a'r cwpwrdd. Fe wnei di arbed arian, rhoi hwb llawn daioni i dy fwyd ac atal bwyd da rhag cael ei wastraffu.

Addasu – Gweini’r pryd mewn gwahanol ffyrdd drwy gydol yr wythnos i arbed amser, bodloni bwytawyr ffyslyd a chadw pethau'n ddiddorol.

Ailgylchu – Unrhyw goesynnau llysiau, esgyrn neu ddarnau na ellir eu bwyta? Yn syth i'r cadi bwyd i'w droi'n ynni adnewyddadwy – gan helpu i bweru Cymru tua’r brig. Gall dim ond un llond cadi o wastraff bwyd bweru cartref cyffredin am bron i awr.

Dyma fformiwla syml sy'n dy helpu i fwyta'n dda, arbed arian a gwneud bywyd yn haws ar ddiwrnodau prysur.

Dos i wefan Cymru yn Ailgylchu i ddarganfod mwy o ffyrdd o wneud dy brydau bwyd yn nerthol, a chei gyfle hefyd i ennill antur anhygoel yng Nghymru.

 

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni