Ar-lein, Mae'n arbed amser

Gwelliannau Teithio Llesol Heol Abertawe

  • Categorïau : Press Release
  • 21 Meh 2023
Swansea Road Active Travel improvements

Mae’r Cyngor yn bwriadu gwella cysylltiadau seiclo a cherdded ar hyd Heol Abertawe er budd preswylwyr ac ymwelwyr, fel rhan o’i raglen Teithio Llesol a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Bydd y gwaith yn cynnwys llwybr troed 3m ar hyd Heol Abertawe a byddwn yn darparu tair croesfan wedi eu rheoli â signal er mwyn creu amgylchedd mwy diogel ac er mwyn cysylltu cymunedau sydd wedi eu rhannu ar hyn o bryd o ganlyniad i’r briffordd.

Bydd pob cyffordd oddi ar Heol Abertawe’n cael eu hailosod a’u culhau gyda mannau croesi esgynedig yn cael eu hychwanegu.

Bydd llwybr, 3m o led, yn cael ei osod yn benodol i gerddwyr a seiclwyr ei rannu. Bydd yn rhedeg ar hyd Heol Abertawe o gylchfan Trago Mills hyd at Heol Corn Du.

Bydd y croesfannau newydd, sydd wedi eu rheoli â signal, yn cael eu gosod ar Heol Abertawe ger cyffordd Pen y Dyffryn, Cyffordd Winchfawr, a Heol Tai Mawr a Heol Abertawe i’r de o Gyffordd Winchfawr.

Bydd unrhyw arosfannau bysus ar hyd y ffordd yn cael eu hail-leoli o gilfachau parcio i’r ffordd gerbydau ei hun, a bydd y cilfachau parcio’n cael eu newid i fod yn llwybrau troed i gerddwyr.

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni