Ar-lein, Mae'n arbed amser
Ail-ddatblygu y Pwll Nofio ar Parc Sglefrio
- Categorïau : Press Release
- 25 Tach 2021

Mae’r Cyngor Bwrdeistref Sirol yn gwneud cais i Lywodraeth Cymru am becyn ariannol tuag at ddatblygiad gwerth £3.2m o waith adnewyddu pyllau y Ganolfan Hamdden a’r parc sglefrio gerllaw.
Bydd y cynllun yn cadw y prif bwll a’r pwll dysgu yn ogystal a pwll hamdden newydd a gwaith ar yr ystafelloedd newid.
Mae’r Cyngor yn dod a thîm project at eu gilydd i edrych ar adeiladu parc sglefrio newydd, wedi ei gyd-gynllunio gan ddefnyddwyr y parc presenol a bydd wedi ei leoli yn agosach at y ganolfan hamdden.
“Bydd yr ailddatblygiad yn costio tua £3.2m ac rydym yn gwneud cais ariannol i Lywodraeth Cymru fydd yn gallu gwneud yn iawn am y gwariant sylweddol.”, meddai Arweinydd y Cyngor y Cyng Lisa Mytton.
Mae’r gwaith ailddatblygu yn cael ei oruchwylio gan Alliance Leisure, arweinydd ym maes datblygu ar draws y DU ar gyfer gwasanaethau hamdden sydd eisiau gwella neu ehangu eu gwasanaethau.
Dwedodd Jane Sellwood Prif Weithredwr Llês@Merthyr, “Rydym yn edrych ymlaen i weithio gyda CBSMT ar ailgynllynio a datblygu y pwll. Mae’r staff yn eiddgar i groesawy pawb yn ȏl ac yn gweithio ar raglenni a datblygiadau ar hyn o bryd.”