Ar-lein, Mae'n arbed amser
Sgyrsiau yn digwydd gyda’r ysgol a’r gymuned am gynlluniau ar gyfer Ysgol Gynradd Goetre newydd
- Categorïau : Press Release
- 17 Tach 2022

Mae sesiynau ymglymiad a gwrando yn cael eu cynnal gyda rhieni, staff, llywodraethwyr a disgyblion am gynlluniau ar gyfer Ysgol Gynradd Goetre, Merthyr Tudful newydd i gymryd lle'r ysgol bresennol sydd mewn cyflwr gwael.
Bydd y project yn creu ysgol fodern yn costio miliynau ac a gyllidir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.
Bydd yr Ysgol newydd yn cael ei lleoli llai na hanner milltir i ffwrdd o’r Ysgol bresennol ar safle o dan Ysgol Uwchradd Pen y Dre. Bydd ganddi Ardal Chwarae Aml Bwrpas (MUGA), chyfleusterau cymunedol a lleoliad gofal plant.
Hon fydd yr ail Ysgol gynradd i’w hadeiladu fel rhan o fenter Cymunedau Dysgu Cynaliadwy , yn dilyn Ysgol y Graig a agorodd yn 2021.
Mae budd ddeiliad yn dweud wrth y Cyngor beth i’w ystyried wrth gynllunio'r ysgol newydd a pha gyfleusterau cymunedol yr hoffent ar y safle newydd.
Cynhelir y sesiynau galw heibio canlynol gan roi cyfle i rieni ac aelodau’r gymuned i siarad gyda swyddogion am y project:
• Sesiwn galw heibio i rieni yn Ysgol Gynradd Goetre- Dydd Mawrth Tachwedd 22, 3-5pm a dydd Mercher Tachwedd 23 , 3-5pm
• Sesiwn galw heibio i’r gymuned yn Hwb Cymunedol Calon Las -Dydd Mawrth Tachwedd 29, 3-5pm
“Dyw’r amgylchedd ar gyfer dysgu presennol ddim yn addas ar gyfer cwricwlwm yr 21ain ganrif ac mae llawer o’r cyfleusterau angen eu diweddaru,” meddai Aelod y Cabinet dros Addysg y Cyngh Michelle Jones.
“Nid yw adeiladau’r Ysgol yn hygyrch i ddisgyblion, staff ac ymwelwyr sydd mewn cadair olwyn ac nid yw’n cydymffurfio gyda gofynion Deddf Gydraddoldeb 2010. Mae angen cyfleusterau cymunedol a dysgu modern er lles disgyblion y Goetre, eu teuluoedd a chymuned ehangach y Gurnos.”
Bydd mwy o sesiynau cymunedol yn cael eu trefnu cyn i’r cynlluniau gael eu cwblhau yn y misoedd nesaf.
Os nad ydych yn gallu galw heibio ond yn hoffi siarad gyda swyddog am y project, ffoniwch Ganolfan Gyswllt y Cyngor ar 01685 725000, neu e-bostiwch newbuildgoetre@merthyr.gov.uk a bydd swyddog yn cysylltu gyda chi.