Ar-lein, Mae'n arbed amser

Gwellianau i gylchdro Tesco’s cyn bo hir

  • Categorïau : Press Release
  • 11 Maw 2022
Tesco Roundabout improvements (3)

Bydd y gwaith yn dechrau ar wneud croesi’r ffordd ger cylchdro Tesco yn haws i gerddwyr ar Fawrth 14- hwn fydd y gwaith ffordd olaf fel rhan o gynllun Teithio Llesol y Cyngor.

Bydd y cynllun yn creu croesfannau cyffyrddol wedi eu gostwng ar bob ochr y gyffordd gan gynnwys ardal ddiogel yn y canol gan alluogi cerddwyr i groesi mewn dau ran. Bydd hefyd droedffordd ramp o Stryd Alma.

Dwedodd y Cyng. Geraint Thomas yr Aelod Cabinet dros adfywio, Trawsnewid a Diogelu’r Cyhoedd: “ Yn dilyn yr ymgynghoriad ym mis Medi 2021, roedd y Cyngor yn llwyddiannus yn derbyn cyllid ar gyfer llwybrau teithio diogel ym Merthyr Tudful.

“Mae’r gwaith eisoes yn digwydd ar hyd yr Avenue De Clichy, Stryd  Bethesda, Stryd Victoria  ac, yn fwy diweddar y Stryd Fawr isaf. Rydym yn falch bod y gwaith olaf ar gylchfan Tesco yn dechrau ar Fawrth 14.

“Disgwylir i’r gwaith gymryd tua phedair wythnos i’w gwblhau ond nid ydym yn disgwyl unrhyw gau’r ffordd na rheoli traffig. Hyderwn na fydd llawer o anghyfleustra a bydd Iechyd a Diogelwch yn parhau yn flaenoriaeth.”

Mae’r Cyngor yn gobeithio gwneud gwaith cyffelyb yn y dyfodol- yn dibynnu ar gyllid- trwy ddarparu croesfan ar gyfer cerddwyr a seiclwyr ar waelod Bryn Twyn a chyflwyno ‘stryd dawel’ ar hyd Llwybr Trevithick. Bydd ymgynghoriad pellach am hyn pan gaiff ei gadarnhau.

Gallwch e-bostio sylwadau at active.travel@merthyr.gov.uk

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni